Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/260

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Yr hwn a roddes ei hun drosom, i'n prynu oddiwrth bob anwiredd," &c. "Prynu oddiwrth anwiredd" ydyw y fendith sydd yn dyfod yn eiddo i'r pechadur; "a roddes ei HUN drosom" ydyw y pridwerth neu yr iawn. Heb. 9: 12, "Eithr trwy ei waed ei hun (dyna y pridwerth,) a aeth unwaith i mewn i'r cysegr, gan gael i ni dragywyddol ryddhad; yn ol y Groeg dragywyddol "brynedigaeth." Edrych hefyd Rhuf. 3: 24, 25; Gal. 4: 4, 5; Dat. 5: 9. Ond effallai y dywedir mai effeithiau y brynedigaeth yw y bendithion hyn, ac nid y brynedigaeth ynddi ei hun. Yr wyf finau yn gofyn, I ba ddyben yr awn ni i alw y pethau hyny yn effeithiau y brynedigaeth, ag y mae yr Ysbryd Glan wedi gweled yn oreu eu galw "y brynedigaeth?" Onid gwyrdroi yr ysgrythyrau ydyw hyn i ddal i fyny draddodiad dynol? Yn awr, yr unig wahaniaeth rhwng prynedigaeth pechadur a'i waredigaeth ydyw hyn: mae y waredigaeth yn arwyddo y cyfnewidiad sydd yn cymeryd lle yn nghyflwr pechadur pan y mae yn cael ei symud o'i sefyllfa golledig, oddiwrth ei anwiredd, &c.; y mae y brynedigaeth yn arwyddo yr un cyfnewidiad, ond y mae yn gosod allan y cyfnewidiad hwnw yn ei berthynas a iawn Crist fel pridwerth dros rai euog.

Felly mae'r gair "prynedigaeth" bob amser yn cynwys y golygiad neu y rhagdybiad o "iawn," er nad ydyw un amser yn arwyddo rhoddiad yr iawn. Geiriau eraill a arferir pan nad oes dim ond y noeth waredigaeth yn cael son am dani, heb gymeryd i mewn y golygiad o berthynas a iawn; sef sozo, diogelu, Mat. 1: 21; a 27: 40, 42. Luc 23: 39; a Ioan 5: 34; ruo, grymus waredu, Mat. 6: 13. Rhuf. 7: 24; 2