Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/261

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cor. 1: 10; Col. 1: 13; exaireo, cipio allan, Act. 7: 10; a 26: 17; ac apalasso, gollwng ymaith, Heb. 2: 5. Ond pan y mae y waredigaeth yn cael ei gosod allan yn ei pherthynas a iawn Crist, y geiriau y sylwyd arnynt uchod, a arferir bob amser. Yn gyson a'r golygiadau hyn y mae y Parch. John Brown o Haddington yn sylwi, ag ychydig ymadroddion tra chynwysfawr, yn ei Eiriadur Ysgrythyrol, dan y gair Prynwr, fel hyn, "Ein 'prynedigaeth neu warediad oddiwrth bechod sydd drwy waed ac Ysbryd Crist, Eph. 1: 7; Col. 1: 14; Heb. 9: 12; ac sydd yn dechreu mewn maddeuaut pechodau, yn cael ei dwyn yn mlaen yn ein sancteiddhâd, ac yn cael ei berffeithio yn ein tragywyddol ddedwyddwch; pan yn yr adgyfodiad, y bydd i'n cyrph gael eu rhyddhau oddiwrth holl effeithiau marwol pechod." Oddiwrth y sylwadau hyn gwelwn,

1. Fod cyfrwng prynedigaeth pechaduriaid yn annherfynol. Mae gwerth gwaed Crist yn gydbwys â gwerth y Person anfeidrol a roddodd ei hun, yn gysylltiedig â pherffeithrwydd ei ufudd-dod, ei ddyoddefaint a'i farwolaeth.

2. Er fod cynygiad o gymod ar sail dwyfol aberth o gyd-eangder a dynol ddeiliaid llywodraeth Jehofa mewn sefyllfa prawf, eto personol ydyw y brynedigaeth; a'r un mor ynfyd ydyw son am "brynedigaeth gyffredinol" a son am ailenedigaeth gyffredinol, neu gyfiawnhad cyffredinol, gan mai yr un personau sydd yn derbyn y bendithion hyn oll,

3. Nid ydyw profi mai credinwyr yn unig ydynt y pwrcas prynedig neu waredol yn gwrthbrofi fod yr holl ddaioni y mae y byd yn fwynhau yn deilliaw