Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/262

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drwy gyfryngdod, ac o ganlyniad, ar gyfrif aberth yr Arglwydd Iesu Grist. Eto,

4. Y mae yr ymadrodd " prynu bendithion" tymorol neu ysbrydol yn gwbl anghyson â golygiad yr Ysgrythyrau ar athrawiaeth prynedigaeth, gan mai personau a brynwyd, ac a brynir, ac nid pethau. Prynwr personau oedd y Messiah cyn ei ymddangosiad yn y yn y cnawd. Prynwr personau ydyw yn awr, ac ni rydd heibio weinyddu yn y swydd ogoneddus hon hyd oni wel ei holl aelodau yn dyfod i'r lan o'r bedd ar ei ddelw ei hun.

Y DDEDDF FOESOL.

Peth o bwys mawr i ni, fel creaduriaid cyfrifol a deiliaid barn, ydyw iawn syniad am ddeddf Duw. Heb syniadau addas am y ddeddf, ni bydd ein hymddygiadau yn deilwng tuag ati; ac heb hyn, nis gall ein bod yn gwir edifarhau o'i throseddu; a chan mai un o ddybenion goruchel ymddangosiad Mab Duw oedd i "fawrhau y ddeddf, a'i gwneuthur yn anrhydeddus," mae yn amlwg fod gwybodaeth o'r ddeddf yn angenrheidiol, er i ni feddu ar syniadau addas am dano Ef, ei swyddau, a'i, waith. Sylwn:

1. Fod y ddeddf foesol yn ddatganiad o ewyllys yr Arglwydd, megys rheol ymddygiad i ddynolryw, fel y maent yn greaduriaid rhesymol ac yn ddeiliaid o'i lywodraeth ef.

Mae deddf bob amser yn cynwys datguddiad o ewyllys rhyw un mewn awdurdod; felly mae'r ddeddf deuluaidd, ac felly mae'r ddeddf wladol; maent yn argraffiadau o ewyllys y cyfryw ag sydd yn