Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/263

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dwyn y llywodraeth. Cofiwn ninau fod pob gorchymyn yn y ddeddf foesol yn ddatganiad i ni o sanctaidd ewyllys yr Arglwydd; ei chroesi ydyw croesi ei ewyllys ef.

2. Mae y ddeddf yn rheol awdurdodol.

Nid cyngor ydyw yn unig, yn dangos beth fyddai oreu i ni wneyd, er mae yn wir (fel y cawn eto grybwyll) ei bod yn dangos y peth sydd oreu, yn yr ystyr uchaf. Ond nid fel cyngor neu gyfarwyddyd diawdurdodol y mae yn dangos hyny. Ond rheol osodedig gan Dduw ydyw, yn amlygu ei ewyllys yn gadarnhaol a gorchymynedig. Ei throseddu, ie yn y lleiaf o'i gorchymynion ydyw taro yn erbyn yr awdurdod uchaf, yr orsedd benaf, a'r llywodraeth ogoneddusaf sydd mewn bod.

3. Mae deddf Duw yn rheol gyhoeddus.

Mae bod yn gyhoeddus yn beth hanfodol i ddeddf bob amser; gweithrediadau cyhoeddus ydynt weithrediadau pob llywodraeth gyfiawn. Yr oedd yn angenrheidiol bod y ddeddf yn gyhoeddus, modd y byddai i greaduriaid rhesymol Duw, fel deiliaid ei lywodraeth, i wybod ewyllys eu Harglwydd. Y mae mor gyhoeddus, fel ag y mae yn ysgrifenedig, mewn rhyw ystyr, ar weithredoedd y greadigaeth ac ar gydwybodau y rhai nid oes ganddynt ond goleuni natur; mae yn cael ei hesbonio a'i hegluro yn barhaus yn ngoruchwyliaethau rhagluniaeth; ac yn benaf y mae yn argraffedig yn Ngair y Gwirionedd. Rhoddwyd hi i Israel ar Sinai yn y modd mwyaf cyhoeddus; ac y mae gweinidogaeth y prophwydi, a Christ ei hun, a'i apostolion, wedi ei dal allan ar gyhoedd ger bron y byd o oes i oes, fel y rheol ogoneddus ag y mynai Duw i ni rodio wrthi. Ac yn awr, gan mai rheol gyhoeddus ydyw, cofiwn mai peth