Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/264

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyhoeddus ydyw ei throseddu, ac mai mewn llys rhyfedd gyhoeddus y byddwn ninau yn fuan, yn rhoddi cyfrif o'n hymddygiadau tuag at ei gofynion sanctaidd.

4. Mae deddf yr Arglwydd yn rheol gyfiawn.

"Mae y ddeddf yn sanctaidd,” medd yr apostol, "a'r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn ac yn dda.” Mae hi yn gofyn bob amser yn ol teilyngdod y gwrthddrych, yn ol cyneddfau y deiliaid, ac yn ol y moddion o wybodaeth ag y buont yn eu mwynhau. Nid yw yn gofyn llai gan yr uchaf a'r cryfaf ei alluoedd yn mhlith angylion y nef, nag iddo garu yr Arglwydd ac ufuddhau iddo “a'i holl galon, a'i holl feddwl ac a'i holl nerth," a'i gyd angel "fel ef ei hun." Ac nid yw yn gofyn llai na hyn gan neb o honom ninau ar y llawr. Yr un mewn sylwedd ydyw ei gorchymynion i holl ddeiliaid y llywodraeth, trwy yr holl fydoedd, ac yn mhob sefyllfa a'u gilydd. Yr oll ag ydym y mae hi yn ofyn, llai nis gall dderbyn yn gymeradwy, a mwy nid yw yn gofyn. O! mor ddoeth y Deddfroddwr, yn gallu gosod deddf mewn un gair, yn addas i sefyllfa pob cerub, seraph, angel a dyn, yn mhob sefyllfa, a than bob amgylchiad, pa un bynag ai yn y byd hwn, ai yn yr hwn a ddaw.

5. Mae deddf yr Arglwydd yn eang yn ei gofyniadau.

"Yr ydwyf yn gweled diwedd," medd y Salmydd, "ar bob perffeithrwydd; ond dy orchymyn di sydd dra ëang." Mae y deddf yn cynwys holl ddwyfol orchymynion yr Ysgrythyrau. Rhoddwyd hi yn ddeg o orchymynion, ac y mae y deg gorchymyn hyn yn ddiau yn grynodeb cyflawn o ddeddf yr Arglwydd. Rhoddwyd hi hefyd mewn dau orchymyn yn cynwys y ddwy