Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/265

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lech, ac ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl gyfraith a'r prophwydi yn sefyll. Ie, mewn un gair, "cyflawnder y gyfraith yw CARIAD." Ond ar yr un pryd, y mae ei hysbrydolrwydd a'i hawdurdod ddwyfol yn rhedeg trwy holl orchymynion sanctaidd yr Ysgrythyrau, ac y mae yn eu cynwys oll. Y mae deddf yr Arglwydd mor ëang, fel y mae yn ein gosod dan y rhwymau mwyaf i ufuddhau i Dduw yn yr hyn oll y mae yn ei orchymyn, i wylio ac ymochelyd rhag yr hyn oll y mae yn wahardd, ac i dderbyn yn ddiolchgar a pharodol bob grasol gynygiad ag y mae yn ei osod ger ein bronau. Fel hyn y mae y ddeddf foesol yn ein gosod dan y rhwymau mwyaf i dderbyn yr efengyl, ac i gredu a'r galon yn Mab Duw er iechydwriaeth dragywyddol. Mae anghrediniaeth ac anedifeirwch yn mhob dyn yn wrthryfel yn erbyn y ddeddf foesol. Amhosibl ydyw i ni groesi y ddeddf sydd yn gorchymyn i ni garu Duw a'n holl galon, yn fwy uniongyrchol a than amgylchiadau mwy cyffrous, na thrwy anghredu y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab, a gwrthod derbyn y fath drefn rasol er ein iechydwriaeth. Yn hyn y mae eithafoedd drwg calon dyn fel gelyn Duw yn dyfod i'r amlwg. Yn hytrach nag ufuddhau i Dduw, gwell ganddo lynu yn ei felus chwantau, er mai y diwedd yw colli ei enaid dros byth. Gwneler yr ystyriaeth yn ddwys a dwfn ar ein meddyliau, fod deddf y nef yn ein gosod dan y rhwymau mwyaf i dderbyn lesu Grist, gwrando arno, a byw iddo. "Diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a FFYDD DDIRAGRITH."

6. Mae y ddeddf yn ysbrydol ac yn fanwl yn ei gofyniadau.