Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/266

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid ufudd-dod i'r gorchymyn yn y llythyren yn unig y mae hi yn ofyn, ond y mae yn gofyn cywirdeb calon yn mhob ufudd-dod. Ac ar y galon yn benaf y mae hi yn edrych. "Nid fel yr edrych dyn yr edrych Duw, canys Duw a edrych ar y galon." Nid oedd ymddygiadau y Phariseaid yn nyddiau ein Hiachawdwr, er mor ddichlynaidd yn allanol, yn gymeradwy yn ngolwg yr Arglwydd. "Beddau wedi eu gwyngalchu" oeddynt, er eu holl gyflawniadau, am nad oedd eu calon yn uniawn gyda Duw. Nis gall deddfau dynion gyrhaedd ond yr ymddygiadau gweledig yn unig; mae deddf Duw yn craffu ar ysgogiadau mwyaf dirgelaidd y meddwl, yn gystal ag ar y gweithrediadau mwyaf cyhoedd. Meddyliwn yn ddifrifol am ei hysbrydolrwydd a manylrwydd ei gofyniadau. Pob gweithred gyhoedd a dirgel, yn y tywyllwch ac yn y goleuni, y mae yn craffu arnynt; pob gair segur, pob meddwl dirgelaidd, pob egwyddor ddrwg, pob dyben annheilwng—maent oll yn cael eu hysgrifenu i lawr erbyn dydd y cyfrif diweddaf!

7. Deddf ddaionus ydyw deddf yr Arglwydd.

Mae y gorchymyn yn gyfiawn, yn sanctaidd ac yn DDA. Mae ufudd-dod i'r ddeddf yn peri y dedwyddwch mwyaf i'r enaid, fel y gallwn ddyweyd yn ëofn mai "o'i chadw y mae gwobr lawer." Mae ei gorchymynion y fath fel mai nefoedd yw ufuddhau iddi, ac uffern yw peidio. Byddwn yn meddwl weithiau pe buasai i Dduw, pan y creodd ddyn ac angel, roddi ei wybodaeth a'i ddoethineb anfeidrol ar weithrediad i ymchwilio er cael allan gyfarwyddiadau a rheolau i greaduriaid rhesymol ymddwyn wrthynt, modd y byddent yn berffaith ddedwydd, na buasai modd cael gwell