Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/267

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gosodiadau nag a gynwysir yn y ddeddf foesol; "Ceri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, a'th holl feddwl, ac a'th holl nerth; a'th gymydog fel ti dy hun." Amhosibl ydyw i un creadur rhesymol fod yn ddedwydd yn un rhan o greadigaeth y Jehofa, pe bai hyny y nef ei hun, heb ei fod yn caru Duw ei Greawdwr ac yn golygu gogoniant ei enw yn beth blaenaf; a lles ei gyd greadur fel ei les ei hun. Gelyniaeth at Dduw, a malais a llid at ddynion a effeithia annedwyddwch mewnol yn mhob sefyllfa, bydded yr amgylchiadau allanol y peth y byddont. Ac o'r tu arall, bod dan lywodraeth cariad at Dduw yn oruchaf, a chariad at ein cymydog fel ni ein hunain a rydd sylweddol ddedwyddwch o fewn y fynwes, bydded yr amgylchiadau allanol mor chwerw ag y byddont. Nis gall uffern ei hun wneyd y dyn yn druenus sydd yn meddu ar yr egwyddor yma, ac nis gall y nefoedd ei wneyd yn ddedwydd hebddi. O! mor ddedwydd a fyddai y byd hwn pe bai dynion yn ufuddhau i ddeddf yr Arglwydd. Dyma sydd yn llanw y nefoedd a'r dedwyddwch mwyaf, maent yno yn ufuddhau yn ddiwyro i'w gorchymynion sanctaidd. Os gwelir ninau byth yno, rhaid ein llwyr gyfnewid i'w delw sanctaidd.

8. Mae deddf yr Arglwydd yn osodiad angenrheidiol, yn tarddu, nid o ben-arglwyddiaeth, ond o natur pethau.

Nid am fod Duw yn uwch na ni, ac yn meddu ar y gallu a'r awdurdod i wneyd hyny, y mae yn gorchymyn i ni ei garu a'n holl galon; ond am fod hyny ynddo ei hun yn weddaidd; mae y rhwymedigaeth yn tarddu oddiar y peth ydym ni, a'r peth ydyw ef, a'r berthyn-