Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/268

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

as rhyngom ag ef fel ein Gwneuthurwr a'n Cynaliwr, a rhan ein henaid. Nid gosodiad a roddwyd i ddyn yw y ddeddf, yn yr ystyr fanylaf, megys rhodd o benarglwyddiaeth. Rhoddiad oedd ei chyhoeddi yn y dull y gwnaed, yn hytrach na rhyw ddull arall ; ond peth yn bod yw y ddeddf. Y foment y bo creadur rhesym-ol yn bod, a golygu bod Duw yn bod, y mae y rhwymedigaeth cynwysedig yn y ddeddf yn bod o angenrheidrwydd.

Bod creadur rhesymol yn bod heb rwymau arno i garu Duw, ac i ufuddhau iddo mor belled ag y byddo ei ewyllys yn ddatguddiedig, ac ymddiried ynddo yn hollol (yr hyn bethau sydd gynwysedig yn y ddeddf) sydd mor amhosibl ag a fyddai i greadur fod yn annibynol ar ei Greawdwr, neu i ddyn fod yn Dduw! Mae ein rhwymau ni i ufuddhau i'n Llywydd anfeidrol yn tarddu, nid oddiar y gorchymyn yn unig, ond yn hytrach, am mai ein dyled yn wreiddiol ydoedd hyny, y rhoddodd yr Arglwydd y gorchymyn; am y dylasem ei garu y gorchymynodd i ni wneyd; ac am mai ein dyled oedd caru ein cymydog fel ein hunain, y rhoddodd i ni y cyfryw orchymyn. Mae ei orchymynion ef, ac felly ein rhwymedigaethau ninau, yn tarddu oddiar berthynasau sydd yn bod rhyngom ag ef, rhyngom a'r Arglwydd Iesu Grist, rhyngom a'r efengyl, a'r Ysbryd, ac a'n gilydd.

9. Yn ddiweddaf, mae deddf yr Arglwydd, fel ei Hawdwr, yn anghyfnewidiol.

Llawer o gyfnewidiadau sydd yn cymeryd lle yn neddfau dynion; ond mae y ddeddf hon yn para yr un o hyd. Nid ydyw wedi lleihau dim yn llymder a manylrwydd ei gofynion o ganlyniad i ddyn fyned i