Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/269

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sefyllfa bechadurus. Peth rhy wael yn ngolwg deddf y nef oedd iselhau dim ar ei gofynion am i'r dyn fyned yn wrthryfelwr yn ei herbyn. Buasai hyn yn anghyfiawnder â Duw, ac a'i greadigaeth resymol hefyd, ac ni fuasai yn well na chymeryd plaid y gwrthryfelwr yn ei ymosodiad rhyfygus a ffiaidd yn erbyn yr orsedd dragywyddol. Nid yw ac nis gall y ddeddf wneyd hyn. Mae hi yn gofyn genym yn awr, gymaint ag erioed, ufudd-dod llawn i'w holl orchymynion. Nid ydyw y ddeddf ychwaith wedi cyfnewid gyda chyfnewidiad goruchwyliaethau. Mae dyn, fel deiliad ymweliadau grasol oddiwrth yr Arglwydd, wedi bod dan wahanol oruchwyliaethau, ond yr un ddeddf ydyw ei reol o hyd. "Ceri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon," oedd ei llais o'r dechreuad hyd Moses-yr un oedd ei llais o Moses hyd y Messiah— yr un ydyw ei llais dan yr efengyl—ac y mae yn ddiau mai yr un yn sylweddol fydd ei llais yn y nef dros fyth. Gan mai ei sail ydyw y berthynas rhyngom a Duw, rhaid dyweyd mai tra y parha Duw yn Dduw, a dyn yn ddyn, bydd y ddeddf yn gofyn ei holl galon, a'i holl alluoedd, yn ol y manteision y byddo yn eu mwynhau, i garu a gwasanaethu yr Arglwydd. ddedwydd dragwyddoldeb! pan y bydd ein calonau ni a deddf y nef yn adseinio yn berffaith i'w gilydd! Y peth y byddo y ddeddf yn ofyn fydd ein hyfrydwch penaf ninau ei wneyd; ac yna bydd ein dedwyddwch yn yr Arglwydd yn gyflawn! Oddiwrth y pethau hyn gwelwn:

1. Y rhwymau sydd arnom i fendithio yr Arglwydd am ei ddeddf, ac am ei lywodraeth uniawn dros y byd. "Cenwch i'r Arglwydd ei saint ef; a chlodforwch wrth