Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/270

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef." Mae sancteiddrwydd ac uniondeb ei lywodraeth, yr un modd a'i ras anchwiliadwy ac anolrheinadwy, yn galw am fawl a chlodforedd oddiwrthym ni. Ychydig ydym yn glywed o glodfori yr Arglwydd am hyn. Pan y diolchir am ei ras ac am ei efengyl, ychydig o ddiolch a roddir am ei lywodraeth uniawn a'i gyfraith bur. Sonir am deulu y nef, eu bod yn "canu cân Moses a chân yr Oen." Maent yno yn molianu am ddeddf, ac am efengyl hefyd. Dysgwn ninau ar y llawr yr un nefol ganiadau.

2. Yn ngwyneb hawddgarwch y ddeddf foesol, dysgwn gasâu a ffieiddio pob pechod. "Nid adnabuaswn i drachwant,” medd Paul, "oni bai ddywedyd o'r ddeddf wrthyf, na thrachwanta." Yn nrych y ddeddf y gwelwn ddrwg pechod. "Anghyfraith yw pechod." Daliwn ein cyflwr a'n bywyd yn ngwyneb deddf ysbrydol a manwl y Jehofa. O! pa faint o feddyliau ofer, o eiriau segur, ac o weithredoedd drygionus yr ydym wedi bod yn euog o honynt! pa faint o ddybenion anghywir, o syniadau cnawdol, o ddymuniadau anghyfreithlawn!-ac O! yr anfri a'r anmharch a roddwyd ar efengyl Mab Duw! Cywir iawn yw y darluniad a roddir o honom gan y prophwyd, "Y pen oll sydd glwyfus, a'r holl galon yn llesg; o wadn y troed hyd y pen, nid oes dim cyfan ynddo, &c."

3. Gwelwn oddiwrth yr hyn a ddywedwyd am y ddeddf, mor ddiesgus ydyw dyn fel troseddwr. Nis gall y ddeddf beidio ei ofyn, nis gallasai yntau gael bodolaeth fel creadur rhesymol heb fod dani, ac nis gall byth fod yn ddedwydd heb ufuddhau iddi. Nid yn ngwyneb efengyl yn unig yr ydym yn ddiesgus am