Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/271

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ein pechod; yr ydym felly hefyd fel deiliaid y ddeddf foesol.

4. Gwelwn ryfeddol ddarostyngiad Mab Duw, yn cymeryd achos troseddwyr deddf y nef arno ei hun. Yr oedd efe yn gwybod yn berffaith am deilyngdod gofynion y ddeddf; ac yr oedd yn gwybod mai yn hollol ddiachos yr oedd dyn wedi ei throseddu, ac nas gellid byth amddiffyn ei gymeriad fel troseddwr. Eto o'i fodd, o gariad a thosturi atom ni, fe gymerodd ein hachos ni arno ei hun, ac a fu foddlawn i'n troseddiadau ni gael eu cyfrif arno ef! O, ryfedd ddarostyngiad a gras ein Gwaredwr bendigedig! Trwyddo ef y mae modd ein hachub heb wneyd cam â'r ddeddf. Y mae ei gofynion wedi eu hateb, y felldith wedi ei dyoddef yn ei berson ef, ac yn ein natur ni. Yn awr, y mae y troseddwr yn cael maddeuant, nid tu cefn i'r ddeddf, ond mewn perffaith gysondeb â'i gofynion oll.

5. Dysgwn gydnabod ein dyledswyddau pwysig, fel rhai sydd i roddi cyfrif—ein dyledswyddau tuag at Dduw ein Creawdwr, tuag at Grist ein Gwaredwr, tuag at ei Ysbryd, tuag atom ein hunain, a'n cydgreaduriaid yn gyffredinol. Peth o bwys mawr ydyw dyledswydd dyn, fel un sydd gyfrifol i Dduw. Y mae llawer yn son am hyn gydag ysbryd iach, ac â chalon gyfan iawn. Ond nid felly y dylai fod. Pa beth sydd ddyledswydd, a pha beth nad yw, a ddylai gael ei ystyried genym megys pe byddem yn ymyl y farn sobr. Yno y byddwn yn fuan yn rhoddi cyfrif.

Byddwn yn meddwl yn fynych, ond i ni gael syniadau addas am eangder a manylrwydd y ddeddf, y byddai yn hawdd iawn penderfynu beth yw dyledswydd pob dyn gyda golwg ar edifarhau, a chredu. yr