Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/272

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efengyl. Os dylem garu Duw ac ufuddhau iddo, diau y dylem ymostwng mewn edifeirwch o herwydd troseddu o honom ei lân orchymynion; ac os dylem ei garu fel y mae y ddeddf yn gofyn, diau y dylem dderbyn y dystiolaeth am ei anwyl Fab. Gwadu hyn, yr ydym yn meddwl, ydyw gwadu un o'r prif bethau a ddysgir i ni yn Ngair y Gwirionedd.

CYFLWR PECHADUR, A'I ACHUBIAETH TRWY RAS.

Eph. 2:4-7.—"Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, ie pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cyd-fywhaodd ni gyda Christ (trwy ras yr ydych yn gadwedig), ac a'n cyd-gyfododd, ac a'n gosododd i gyd-eistedd yn y nefolion leoedd yn Nghrist Iesu : fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yn Nghrist Iesu."

Mae yr apostol yma yn cymell i sancteiddrwydd—i fywyd effro mewn crefydd-trwy adgoffhau goludoedd gras Duw tuag at y saint. Un o'r rhesymau cryfaf ag y mae ysbrydoliaeth Duw yn eu defnyddio i gymell i burdeb bywyd ac ymarweddiad, ac i ddeffroad mewn crefydd, ydyw, yr ystyriaeth o gyfoeth gras a thrugaredd yn nychweliad pechaduriaid ac iachawdwriaeth eglwys Dduw. Sylwn,

I. Ar gyflwr dyn fel pechadur: y mae yn farw mewn camweddau. "Pan oeddym feirw mewn camweddau." Ac yn yr adn. laf, dywedir, "A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau."

1. Dylem sylwi yma ar rai pethau yn nacaol.

(a.) Nid ydym i ddeall fod dyn yn farw yn mhob ystyr. Nid ydyw felly. Y mae yn fyw iawn i'r hyn