Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/273

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd ddrwg, ond yn farw i'r hyn sydd dda-yn fyw i halogi Sabbothau Duw, ond yn farw i sancteiddiad y Sabboth-yn fyw i gablu enw yr Arglwydd, ond yn farw i barchu ei enw yn fyw i gynllunio drygioni, ac i weithredu drygioni-mae y byd pechadurus ag yr ydym ynddo yn preswylio yn llawn bywyd yn yr ystyr yma.

(b.) Nid ydym i ddeall fod dyn yn rhydd oddiwrth gyfrifoldeb i Dduw, fel y mae y marw sydd yn ei fedd yn rhydd oddiwrth gyfrifoldeb i'r gymdeithas ddynol yr hon y bu unwaith yn aelod o honi. Dilyn y gymhariaeth yn rhy bell, ac felly arwain i gyfeiliornad dinystriol, a fyddai ei dilyn felly. Mae y marw yn ei fedd yn rhydd oddiwrth bob cyfrifoldeb. Nid oes ar y tad sydd yno rwymau mwyach i ofalu am gynaliaeth ei deulu; nid oes ar y dinasydd rwymau i ofalu am orchwylion dinasydd fel y bu; ac nid oes dim cyfrifoldeb ar neb sydd yno. Ond nid yw y farwolaeth ysbrydol yn ein rhyddhau oddiwrth gyfrifoldeb mewn unrhyw ystyr. Y mae dyn, ie, yr annuwiolaf o ddynion, yn gyfrifol i Dduw yn mhob peth. Mae yn gyfrifol am yr egwyddorion y mae yn eu mabwysiadu, am y tueddfryd neu yr anian sydd yn ei lywodraethu, am ei feddyliau gwageddol a'i eiriau segur, ac am ei agweddau a'i weithrediadau oll.

(c.) Nid ydym i ddeall y geiriau ychwaith yn gosod dyn allan fel un amddifad o alluoedd neu gyneddfau priodol i ufuddhau i'r hyn y mae Duw yn orchymyn iddo. Fe ddefnyddir y geiriau hyn weithiau (chwi a wyddoch) i amddiffyn y dyb yna, sef bod dyn yn analluog (yn gystal ag anewyllysgar) i wneyd yr hyn sydd dda, fel y mae y marw sydd yn y bedd yn anall-