Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/274

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

uog i deimlo, i siarad, i weled, clywed, &c. Ond dilyn y gymhariaeth yn rhy bell yw hyn eto. Oblegid, (1.) Y mae dyn yn meddu ar alluoedd neu gyneddfau naturiol priodol i ufuddhau i Dduw yn yr hyn oll y mae Duw yn ei orchymyn iddo. Cynysgaeddwyd ef â'r cyfryw gyneddfau yn ei greadigaeth, ac y mae Duw yn gofyn ufudd-dod ganddo yn awr yn ol y cyneddfau neu y galluoedd naturiol ag y mae yn awr yn eu meddu. Nid fel y slaveholder yn gorchymyn i'r caethwas wneyd yr hyn nas gall ei wneyd, y mae yr Arglwydd ond y mae yn ein gorchymyn i wneyd yr hyn nad oes un rhwystr, ond ein drygioni, ar ein ffordd i'w gyflawni. Hefyd, (2.) Y mae cymorth grasol, sef dwyfol ddylanwad, yn cael ei gynyg i bob dyn yn nhrefn yr efengyl, i'w gynorthwyo i wneyd yr hyn a orchymynir iddo yn yr efengyl. Hyn sydd amlwg, oblegid y mae gorseddfaine y gras yn "borth i bob anghenog"-nid i bob duwiol yn unig; ond i bob anghenog. Felly nid amddifadrwydd o allu, a hwnw yn allu priodol i ufuddhau (fel y mae y marw naturiol analluog i weithredu yn ei orchwylion naturiol), a feddylir wrth y farwolaeth hon.

yn

2. Ond sylwn air yn gadarnhaol. Wrth ei fod yn farw mewn camweddau a phechodau y mae i ni ddeall, ei fod mor ddyeithr i'r efengyl ac i bethau Duw ag yw y marw yn ei fedd i achosion y byd presenol. Traethu y ffaith ddifrifol yna wneir, a'i thraethu yn y fath fodd ag sydd yn dangos fod y dyn yn "bechadurus" ac yn "gamweddus" am ei fod felly. Nid yw y marw yn y bedd yn clywed dim, yn gweled dim, nac yn teimlo dim-nid oes dim a wnelo â gorchwylion prysur y byd presenol. Felly nid yw y dyn sydd yn byw mewn