Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/275

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pechod a chamwedd yn gweled dim gogoniant a hawddgarwch yn mhethau yr efengyl. Nid yw yn clywed dim o swn taranau Sinai, nac o hyfrydlais caniadau Seion-mae "yn farw mewn camweddau a phechodau."

(a.) Y mae yn farw yn llygredigaeth ei gamweddau—pob tueddfryd sydd ynddo, a phob ysgogiad o'i eiddo yn bechadurus—a dyma y darlun du a roddir o hono: "Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol helynt y byd hwn, yn ol tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awrhon yn gweithio yn mhlant anufudd-dod. Yn mysg y rhai y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd, a'r meddyliau; ac yr oeddym ni wrth naturiaeth yn blant digofaint megys eraill."

(b.) Y mae yn farw dan bwys euogrwydd ei gamweddau. Mae euogrwydd oes o gamweddau yn gorwedd arno heb eu maddeu. "Duw sydd ddigllawn beunydd wrth yr annuwiol. Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf, efe a anelodd ei fwa ac a'i parotodd," &c.

(c.) Y mae yn farw, fel y mae yn agored bob eiliad i gael ei drosglwyddo i afaelion arswydlon yr "ail farwolaeth." Nid oes ond yr anadl sydd yn ei ffroenau ac amynedd y Duw mawr rhyngddo a holl erchyllderau y pryf nad yw yn marw a'r tân na ddiffydd!

II. Ei gyfnewidiad trwy ras-ei gyd-fywhau gyda Christ-ei gyd-gyfodi gyda Christ—a'i osod i gyd-eistedd yn y nefolion leoedd yn Nghrist Iesu.

Sylwn yma ar ddau beth-y gwaith a wneir ar gyflwr pechadur yn ei droedigaeth at Dduw, a bod hyny yn cael ei wneyd mewn cysylltiad a thrwy berthynas â