Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/276

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Iesu Grist. Sylwn ar y ddau beth hyn gyda eu gilydd wrth fyned yn mlaen.

1. "Cyd-fywhau a chyd-gyfodi gyda Christ." "Bywhau," hyny yw, dwyn y dyn ag oedd o'r blaen yn ddi-deimlad i deimlo yn briodol, yr hwn oedd yn ddall i weled, yn fyddar i glywed, yn ddi-ofal i ofalu am enw ac achos yr Arglwydd. Cyfodi o sefyllfa bechadurus i fuchedd sanctaidd. Dyma y cyfnewidiad a effeithir trwy yr efengyl, pan y mae y pechadur yn cael ei ddychwelyd at Dduw trwy ras. Y mae yn gyfnewidiad mawr, ac yn drwyadl ar yr holl ddyn— tebyg i gyfodi un o farw yn fyw. Bellach y mae y ffrwyth yn sancteiddrwydd, a bydd y diwedd yn fywyd tragywyddol.

"Gyda Christ”—" cyd-fywhau a chyd-gyfodi gyda Christ." Nid meddwl y gair ydyw fod y rhai a gedwir byth trwy Grist wedi cyfodi i.fywyd ysbrydol ar y pryd ag y cyfododd efe. Fe berffeithiwyd y ffordd i gadw pwy bynag a gredo yn ei enw ar y pryd hwnw, ond ni wnaed un cyfnewidiad yn eu sefyllfa hwy. Y mae yr holl fyd dan farn Duw, a phawb fel eu gilydd wrth naturiaeth yn blant digofaint. Ond y mae dau beth i ni i'w deall, mae'n debyg, wrth gyd-fywhau a chyd-gyfodi "gyda Christ," sef, (1.) Mae tebygolrwydd yn bod rhwng eu cyfodiad hwy i fywyd ysbrydol a'i gyfodiad ef ar foreu y trydydd dydd. Fe gyfododd efe i ofalu am achosion ei deyrnas-daeth o blith y meirw i fywyd byth mwyach; maent hwythau yn cyfodi i wasanaethu yr Arglwydd, o blith y meirw ysbrydol, ac o'r sefyllfa hono i fyw bellach fywyd o sancteiddrwydd ar y ddaear. Fe gyfododd Crist i ymddangos drostynt hwy ar ddeheulaw y Mawredd fry