Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/277

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

maent hwythau yn cyfodi i ymddangos drosto yntau a'i achos yn eu tymor yn y byd hwn. (2.) Maent hwy yn cael eu bywhau a'u cyfodi trwy rinwedd ei fywyd a'i adgyfodiad ef. Ei angau ef a wnaeth iawn dros eu camweddau hwy, a'i adgyfodiad a brofodd fod y fath iawn wedi ei chael ynddo. Felly trwy rinwedd yr anfeidrol iawn a gafwyd yn ei angau a'i gyfodiad ef, y maent yn cael eu cyfodi i fuchedd sanctaidd, &c. "Wedi ein hadgenedlu i obaith bywiol, trwy adgyfodiad Iesu Grist oddiwrth y meirw."

2. "Ac a'n gosododd i gyd-eistedd yn y nefolion leoedd yn Nghrist Iesu." Fe esgynodd Crist i eistedd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd. Y mae'r saint, er mai ar y ddaear y maent, ar ryw olygiadau yn eistedd gydag ef.

(a.) Gydag ef mewn anrhydedd. Y mae efe yn yr anrhydedd mwyaf; y maent hwythau yn anrhydeddus yn eu perthynas ag ef.

(b.) Gydag ef mewn diogelwch. "Eistedd" a arwydda sefyllfa o dawelwch a diogelwch. "Eistedd" y mae efe yn y tawelwch a'r diogelwch mwyaf, allan o gyrhaedd pob gelyn a phob niwed. Nid ydynt hwy allan o gyrhaedd y gelynion eto, ond y mae eu sefyllfa ynddo ef yn un o ddiogelwch mawr-nis gall neb wneyd niwed iddynt, tra b'ont yn pwyso ar ei ras a'i rym ef.

(c.) Maent yn cyd-fwynhau yr un nefol gymdeithas. Er mai ar y ddaear y maent, eto y maent yn mwynhau cymdeithas a gwasanaeth y nefolion. "Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a'u gwared hwynt." "Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu hanfon i wasanaethu er mwyn