Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/278

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?" Os yw y gelyn yn temtio i bechod, y mae angylion (trwy ryw offerynoliaeth neu gilydd) yn cymell i sancteiddrwydd yn barhaus, ac yn gweini er dyddanwch y saint; ac yn hyn y cyd-una yn hyfryd ysbrydoedd ein hanwyliaid rhai a fuont feirw yn yr Arglwydd—"Aʼn gosododd i gyd-eistedd yn y nefolion leoedd," &c.

(d.) Maent mewn sefyllfa a sicrha eu dygiad i mewn ryw ddiwrnod i gyd-deyrnasu gydag ef mewn gogoniant tragywyddol. "Os dyoddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef." Fe lefara Duw weithiau y pethau nad ydynt fel pe byddent, i ddangos sicrwydd dygiad y pethau hyny i ben. Felly y maent hwythau, mewn ystyr, fel pe byddent eisoes gydag ef yn ei nefol ogoniant. O, sefyllfa uchel o anrhydedd, diogelwch, a dedwyddwch !

III. Yr achos cynhyrfiol o'r cyfnewidiad hwn. Nid teilyngdod yn y gwrthddrychau-nid rhagwelediad o ryw rinweddau ynddynt hwy; ond cyfoeth trugaredd a mawr gariad Duw. "Duw yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad," &c. Tra hyfryd oedd gan Paul daro ar y tannau hyn, sef gras, trugaredd, a chariad Duw.

1. Mae yr ymadroddion, "cyfoeth ei drugaredd" a'i "fawr gariad,” yn dangos fod ynddo helaethrwydd o dosturi at bechadur. Mae wedi cyhoeddi ei enw yn Dduw trugarog a graslawn, &c. "Duw, cariad yw." O, pwy all ddirnad helaethrwydd ei drugaredd yn Nghrist Iesu tuag at y byd colledig !

2. Fe ddangosodd helaethrwydd ei drugaredd a'i fawr gariad yn yr aberthiad a wnaeth o'i Anwylfab drosom, a'r aberthiad a wnaeth Crist o hono ei hun. "Yn hyn y mae cariad," &c.