Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/279

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

3. Eglurir helaethrwydd ei drugaredd yn ei waith yn achub pechaduriaid mawrion. Rhai felly oedd yr Ephesiaid a'r Corinthiaid, a dychweledigion dydd y Pentecost, y rhai a groeshoeliasant yr Iesu; a rhestra Paul ei hun yn eu plith fel y "penaf o bechaduriaid."

4. Bydd cyfoeth ei drugaredd i'w ganfod yn y gwaith hwn pan y dygir ef i berffeithrwydd tragywyddol-pan y canfyddir y dyrfa waredigol heb arni "na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw."

IV. Amcan haelfrydol Duw yn nychweliad ac iachawdwriaeth y rhai y mae yr apostol yn llefaru yma ani danynt; "Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yn Nghrist Iesu."

Un amcan daionus o eiddo yr Arglwydd yn nychweliad pechaduriaid ydyw, sicrhau iachawdwriaeth y gwrthddrychau hyny eu hunain. Amcan arall (ac am hwnw y lleferir yma) ydyw effeithio er lleshau eraill-effeithio yn yr oes bresenol er lleshau oesoedd dyfodol. Y mae pob diwygiad ar grefydd yn effeithio yn mlaen ar genedlaethau eto a enir. Yr oedd y diwygiadau mawrion a gwblhawyd trwy weinidogaeth bersonol yr Arglwydd Iesu Grist a'i apostolion yn yr oes hono, yn cael eu bwriadu gan Dduw, yn anfeidrol haelfrydedd ei galon ef, i gario effeithiau daionus arnom ni, ac felly ar eraill o oes i oes hyd ddiwedd amser. Yn yr un modd y mae pob diwygiad i effeithio ar genedlaethau i ddyfod. "Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai," &c.

Sylwn ar rai pethau a ddangosir i oesoedd dyfodol yn niwygiadau nerthol yr oes apostolaidd.

1. Fe ddangosir yn ymarferol, a hyny yn y modd