Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/280

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dysgleiriaf, barodrwydd Duw i faddeu trwy Grist Iesu i'r pechaduriaid gwaethaf. Edrychwn ar y rhestr ddu a rydd yr apostol o bechodau yr oes hono, a chlywn ef yn dweyd, "A hyn fu rhai o honoch chwi; eithr chwi a olchwyd; eithr chwi a sancteiddiwyd; eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni;" ïe, edrychwn ar lofruddion Mab Duw ei hun wedi derbyn maddeuant; ac oni ellir dweyd fod rhagorol olud ei ras ef trwy ei gymwynasgarwch iddynt yn Nghrist Iesu wedi ei ddangos i'r oesoedd a ddeuai?

2. Fe ddangosir fod modd i eglwys Dduw gael diwygiadau nerthol eto. Diwygiadau nerthol oedd diwygiadau yr oes hono-diwygiadau oeddynt yn dangos "rhagorol olud" gras Duw; ac fe fynai Duw ddangos i oesoedd a ddeuai fod modd eto cael yr un dylanwadau; oblegid yr un yw goludoedd ei ras ef a'i gymwynasgarwch yn Nghrist Iesu yn awr a'r pryd hwnw. Edryched eglwys Dduw ar y tywalltiadau rhyfeddol a wnaed y pryd hwnw, a dysgwylied (er mor isel ydyw ar yr achos mewn llawer man) am y cyffelyb dywalltiadau eto.

3. Fe ddangosir i holl genedlaethau y ddaear mai yn Nghrist Iesu yn unig y mae gobaith i bechadur fod yn gadwedig. Mynai Duw ddangos i bawb yn mhob oes, hyd ddiwedd y byd, trwy y nerthoedd rhyfeddol a ddilynasant athrawiaeth y groes, mai yn Nghrist y mae ganddo fodd i ddangos ei gymwynasau i bechadur. Yma yn unig y mae modd i symud euogrwydd a halogrwydd pechod-sef, trwy gredu yn Iesu, byw iddo, a'i anrhydeddu yn ei ordinhadau.