Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/281

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TRISTAU YR YSBRYD GLAN.

TRADDODWYD YN NGHYMANFA UTICA, MEDI 12, 1843.

Eph. 4: 30.-"Ac na thristewch Lan Ysbryd Duw, trwy yr hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth."

Ar ol sylwi yn y rhan flaenaf o'i lythyr ar rai o brif athrawiaethau yr efengyl, y mae yr apostol yn dyfod yn mlaen at bethau ymarferol; ac yn mhlith y dyledswyddau a nodir y ceir geiriau y testyn, "Ac na thristewch," &c. Sylwn,

I. Ar yr enw a roddir ar Ysbryd yr Arglwydd—"Glan Ysbryd Duw." Gelwir ef felly yn dra mynych yn yr Ysgrythyrau, i osod allan,

1. Ei burdeb personol a hanfodol. Y mae yn Ysbryd Glan, o ran ei Berson tragywyddol. Y mae yn hanfodol lân. Nid oes neb felly ond Duw yn unig; gallai dynion fod yn ddynion (er nad yn ddynion da) heb fod yn sanctaidd ; gallai angelion fod yn angelion (er nad yn angelion da) heb fod yn sanctaidd ; ond nis gallai Duw fod yn Dduw heb fod yn sanctaidd.

Mae yn anfeidrol lân-yn rhagori mewn sancteiddrwydd ar y creaduriaid sancteiddiaf yn y bydysawd. Yn yr ystyr yma, dywedir ei fod yn gosod ynfydrwydd yn erbyn ei angelion, a'r nefoedd nid ydynt yn lân yn ei olwg ef.

Mae yn anghyfnewidiol lân. Mae creaduriaid Duw yn cynyddu mewn sancteiddrwydd, neu mewn dirywiad yn barhaus; ond y mae Duw ei hun, o ran ei lendid neu ei burdeb moesol, fel yn mhob priodoledd arall, yr un o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb.

2. Ei swydd. Gelwir ef yn Ysbryd Glan am mai glanhau yr halogedig yw ei swydd rasol yn nhrefniant