Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/282

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gogoneddus ein hiechydwriaeth. Ac y mae yn diamheuol genyf mai o herwydd hyn yn benaf y mae yn dwyn yr enw "YSBRYD GLAN" yn Ysgrythyrau y Gwirionedd.

II. Y gwaith a briodolir iddo yn y testyn—"selio hyd ddydd prynedigaeth." Mae yr ymadrodd yma yn cyfeirio at waith y marsiandwr yn rhoddi ei sêl ei hun ar ei nwyddau, (goods) ei hun. Pan y byddai marsiandwyr yn myned i wlad bell i wneyd eu marsiandiaeth, gwedi prynu, byddai pob un yn gosod ei sêl briodol ei hun ar ei feddianau, fel y byddai iddo eu hadnabod oddiwrth eiddo pob marsiandwr arall wedi eu dwyn tuag adref. Felly y mae Duw yn selio ei eiddo ef; a'r sêl a ddefnyddia efe yw ei ddelw ei hun, yr hon y mae yn ei hargraffu ar ei bobl trwy weithrediadau ei Ysbryd a thrwy foddion yr efengyl. Wrth y sêl hon y cydnabyddir ni yn eiddo i'r Arglwydd yn "nydd prynedigaeth."

Wrth "ddydd prynedigaeth" y mae i ni ddeall dydd rhyddhad y corph o'r bedd, dydd yr adgyfodiad cyffredinol. Ystyr y gair prynedigaeth yw rhyddhad neu ymwared. Defnyddir ef yn fynych i osod allan warediad neu ryddhad eneidiau pechaduriaid, trwy ras, o gaethiwed gwasanaeth pechod i sefyllfa plant rhyddion yn nhy a gwasanaeth yr Arglwydd. "Gan wybod nad â phethau llygredig, megys arian ac aur y'ch prynwyd oddiwrth eich ofer ymarweddiad," &c. 1 Pedr, 1 : 18. "Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ol cyfoeth ei ras ef," Eph. 1: 7. Ond wrth y prynedigaeth yn y testyn y golygir rhyddhad y corph o garchar y bedd, yn y dydd hwnw am yr hwn y llefara Mab Duw pan y dy-