Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/283

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wed, Na ryfeddwch am hyn; canys y mae yr awr yn dyfod yn yr hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef; a hwy a ddeuant allan," &c. Ioan 5: 28, 29. Yn y dydd hwnw y bydd sylweddolion cyrph y saint yn dyfod i fyny yn gyrph ysbrydol, anllygredig, cyffelyb i'w gorph gogoneddus ef. Am y brynedigaeth hon y llefara yr apostol, Rhuf. 8: 23, "Gan ddysgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph." Yn y dydd rhyfedd hwn, bydd eiddo yr Arglwydd yn cael eu hadnabod wrth y sêl neu y ddelw a roddwyd arnynt yn nhymor eu bywyd ar y ddaear.

III. Yr ymddygiad y gelwir ni i wylio rhagddo, sef "tristâu yr Ysbryd Glan," &c. Cawn enwi yma rai o'r amrywiol ffyrdd ag y dylem eu gochelyd, yn y rhai y tristeir Glan Ysbryd Duw.

1. Edrych yn fach ar y dylanwadau a fwynheir genym yn barod o eiddo yr Ysbryd Glan, sydd yn tueddu i'w dristâu. Nid oes un Cristion nad yw yn ddeiliad o ryw ddylanwadau oddiwrth yr Ysbryd Glan-rhyw deimlad o ddrwg pechod-rhyw bigiadau cydwybod o herwydd cyflwr y byd-rhyw ddymuniad am ymadnewyddiad mewn crefydd, &c. Ac yn wir yr wyf yn ameu a oes un dyn dan yr efengyl nad yw yn ddeiliad dylanwadau gwerthfawr ar amserau oddiwrth y tragywyddol Ysbryd-mewn atalfeydd, mewn cymelliadau, mewn argyhoeddiadau, &c. Yn awr, gochel di ddibrisio y dylanwadau sydd ar dy feddwl, ac felly dristâu y Dyddanydd nefol; ond o'r tu arall, ymdrecha eu meithrin, a gweddia am eu cynydd.

2. Edrych yn fach ar y moddion a drefnodd yr Ysbryd Glan er ein iachawdwriaeth, sydd yn tueddu