Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/284

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w dristâu. Mae holl foddion iachawdwriaeth o drefniad yr Ysbryd Glan. Efe a'n cynysgaeddodd â'r Gyfrol Ddwyfol, "Dynion sanctaidd Duw a lefarasant, megys eu cynhyrfwyd gan yr Ysbryd Glan." Efe yw awdwr y doniau gweinidogaethol yr ydym yn eu mwynhau; o'i anfoniad ef y mae ein hathrawon. Efe a drefnodd i ni freintiau yr Ysgol Sabbothol, y gyfrinach neillduol, y cymundeb, y weddi ddirgel, y manteision teuluaidd; ie, yr holl foddion am ein tragywyddol fywyd, y rhai yr ydym yn eu mwynhau, ydynt o'i drefniad a'i osodiad ef. Gwylia ei dristâu trwy waeddi, "Manna gwael," uwchben y moddion yr ydwyt yn eu mwynhau.

3. Esgeuluso ein cydgynulliad sydd yn tristâu Glan Ysbryd Duw. Mae lle i ofni fod llawer yn ein dyddiau ni yn byw yn yr "arferiad" o esgeuluso eu cydgynulliad; fel y dywed yr apostol, "Heb esgeuluso eich cydgynulliad eich hunain, megys y mae arfer rhai," Heb. 10: 25. Trwy esgeuluso yr ydym yn colli dwy fendith ar unwaith-yr ydym yn colli bendith y cyfarfod a esgeulusir, a thrwy dynu euogrwydd ar ein cydwybodau yr ydym yn anghymwyso ein hunain yn fawr i fwynhau bendith y cyfarfod nesaf. Fel hyn i'r esgeuluswr y mae y moddion yn myned yn llai ei werth o bryd i bryd, a'i enaid yn cael ei adael mewn culni ysbrydol. Rheol y Cristion ddylai fod, peidio esgeuluso un moddion ag a allo ei fwynhau. Dichon iddo golli moddion lawer tro, trwy gystudd, neu trwy fod o gyrhaedd y moddion ar yr amser, neu y cyffelyb. . Ond ni ddylai esgeuluso unwaith yn ei dymor; oblegid y mae arno angen dylanwad pob moddion o drefniad Duw idd ei ddwyn yn mlaen yn ffordd bywyd tragywyddol.