Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/285

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

4. Peidio gofyn am ei gymdeithas a'i gymorth mewn dyledswyddau crefyddol sydd yn tristâu yr Ysbryd Glan. Mae hyn yn sarhad arno yn ei swydd yn ngwaith iechydwriaeth-ei waith yw "cynorthwyo ein gwendid ni," Rhuf. 8: 26. Trwyddo y cyflawnir dyledswyddau crefyddol yn gymeradwy; hebddo, ni bydd cyflawniad un ddyledswydd ond yn ffurfiol, yn Phariseaidd, ac anghymeradwy. Os esgeuluso gofyn am ei gwmni y byddi wrth fyned i'r cwrdd gweddi, pa ryfedd os bydd y cwrdd gweddi hwnw i ti yn galed a di-wlith? Os esgeuluso gofyn ei gymdeithas wrth fwrdd y cymundeb, wrth yr allor deuluaidd, yn y pwlpud, dan y pwlpud, neu pa le bynag, pa ryfedd ei fod yn dy adael?

5. Rhoddi lle yn ein mynwes i feddyliau cnawdol a llygredig sydd yn tristâu yr Ysbryd Glan. Cofiwn mai Ysbryd Glan yw, ac nas gall ei burdeb anfeidrol ei oddef i gymeryd ei drigfan lle y mae meddyliau aflan yn cael eu coleddu. Un nwyd lygredig yn cael ei choleddu a gaua ddrws y galon yn erbyn sanctaidd bresenoldeb yr Ysbryd Glan. Am hyny y dywed y Salmydd, "Meddyliau ofer a gaseais, a'th gyfraith di a hoffais."

6. Rhoddi lle i feddyliau anghymeradwy neu ddweyd geiriau anghymeradwy am eraill sydd yn tristâu yr Ysbryd Glan. Gofynir yn y 15fed Salm, Arglwydd, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia yn mynydd dy sancteiddrwydd?" ac atebir yn mhlith pethau eraill, mai y dyn hwnw "yr hwn nid yw yn absenu â'i dafod," nac yn "derbyn enllib yn erbyn ei gymydog," a'r hwn "a wnelo hyn nid ysgogir yn dragywydd."