Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/286

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

7. Trwy fyned yn ddiachos i ffordd y brofedigaeth yr ydym yn tristâu yr Ysbryd Glan. "A ddichon gwr ddwyn tân yn ei fynwes heb losgi ei ddillad? A ddichon gwr rodio ar hyd marwor heb losgi ei draed?" Diar. 6:27, 28. Dyben y gofyniad cyffrous hwn yw, dangos fod yr hwn sydd yn rhedeg yn ddiachos i wyneb profedigaethau yn dra sicr o gael niwed.

8. Yr ydym yn fynych yn tristâu yr Ysbryd Glan trwy esgeuluso gwneyd daioni pan y byddo ar ein llaw ei wneuthur. Llawer un a gollodd bresenoldeb y Dyddanydd nefol am faith amser o herwydd iddo esgeuluso gwneyd cymwynas i gymydog tlawd yn ei ymyl, mewn cystudd neu dlodi, neu bob un o'r ddau, pan y gallasai yn rhwydd wneyd hyny; a llawer un sydd yn cael ei adael o ran ei enaid fel mynydd Gilboa, heb na gwlith na gwlaw arno, o herwydd ei fod yn esgeuluso cydweithio gydag ymdrechion dyngarol yr oes, i ddwyn oddiamgylch ddaioni dynolryw a llwyddiant teyrnas ein Harglwydd ar y ddaear. Mae y cymydog tlawd cystuddiol yr esgeulusaist ymweled ag ef a gweinyddu i'w angenrheidiau, ysgatfydd, yn un o rai anwyl Duw, yn destyn eiriolaeth neillduol Iesu, ac yn wrthddrych gofal yr Ysbryd ; ac y mae y gymdeithas y cefaist gyfle i ymuno a hi ond a esgeulusaist, yn un o'r moddion cyhoeddus, hwyrach, a drefnwyd gan Dduw i dynu i lawr deyrnas y fagddu yn un o'i handdiffynfeydd cryfaf, ac i sicrhau teyrnasiad yr Emmanuel bendigedig dros yr holl ddaear; a pha ryfedd yw fod esgeuluso y cyfryw yn tristâu yr Ysbryd Glan.

IV. Pwysigrwydd y gocheliad, "Ac na thristewch Lan Ysbryd Duw," &c. Paham y dylem ochelyd ei dristâu?