Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/287

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1. Y Bôd mwyaf goruchel a'r sydd mewn bod—yw Ysbryd yr Arglwydd! Dylem wylio rhag tristâu, yn afreidiol, ein cydradd ddynion, pa faint mwy Ysbryd y tragywyddol Dduw?

2. Ein Cymwynaswr goreu yw. Efe yw yr Ysbryd sydd yn glanhau yr halogedig; o hono o hono y deillia ein holl rasau a'n holl ddyddanwch. Efe yw y

“Dyddanydd arall" yr hwn sydd yn aros gyda ei saint yn dragywydd. Gwyliwn rhag tristâu ein nefol Ddyddanydd.

3. Ein Perchen anfeidrol yw. Efe a'n seliodd fel ei eiddo ei hun, trwy argraffu arnom ei ddelw. Nid ydym at ein rhyddid i dristâu, heb achos, yr estron penaf. Pa faint mwy y dylem wylio rhag tristâu yr hwn yr ydym yn mhob ystyr yn eiddo iddo, ac wedi derbyn arnom ei ddwyfol sel?

4. Mae dydd yr ymweliad yn ein haros, ac yr ydym yn dysgwyl i'r Ysbryd Glan ein harddel yn y dydd hwnw; oblegid y mae wedi selio ei blant "hyd ddydd prynedigaeth." Dyna y dydd ag y bydd o'r pwys mwyaf i ni oll fod yr Ysbryd Glan yn gyfaill i ni, ac yn drigianydd ynom. O, bechadur! pa fodd y cyfarfyddi â'th Farnwr, heb fod yr Ysbryd Glan wedi gwneyd ei drigfan ynot, a gorphen ei waith ar dy enaid? Os heb hyn, byddi i'th gael yn aflendid dy holl bechodau ger bron yr orsedd buraf sydd! A chwithau sydd yn proffesu yr enw mawr, gofynaf, Pa beth ydych yn wneyd yn eich cynulliadau, a'ch holl ymwneyd a'i achos?—pa un ai ei dristâu, ai coleddu a meithrin yr ydych ei rasol weithrediadau?