Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/288

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"LLESTRI DIGOFAINT" A "LLESTRI TRUGAREDD."

Rhuf. 9: 22—24. "Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint wedi eu cymwyso i golledigaeth: Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a rag—barotodd efe i ogoniant? Sef nyni y rhai a alwodd efe, nid o'r Iuddewon yn unig, eithr hefyd o'r Cenedloedd."

Y prif bwnc yr ymdrinir ag ef yn y benod hon a'r ddwy ganlynol ydyw Cyfiawnder Duw yn rhoi yr Iuddewon i fyny i farn am eu hanghrediniaeth—a’i anfeidrol drugaredd yn ngalwad y Cenedloedd.

Nid anfuddiol, efallai, fyddai gwneyd rhai sylwadau ar adnodau blaenorol i'r testyn hwn. Pan y dywed yr apostol, adn. 3, "Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddiwrth Grist, dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ol y cnawd," &c.,—nid y meddwl yw y buasai yn foddlon bod yn ddyn colledig er mwyn ei genedl, oblegid nis gallasai fel Cristion ddymuno y fath beth, ac nis gallasai hyny lesâu dim ar sefyllfa y genedl mewn unrhyw fodd. Ond iaith gref yw y geiriau, yn gosod allan ddymuniad yr apostol, na byddai i'r Iuddewon gymeryd dim tramgwydd oddiwrth ddim rhagfarn allasai fod ynddynt ato ef yn bersonol, i'w hatal rhag dyfod at Grist a'i wasanaeth—ond ar iddynt edrych yn uniongyrchol at Grist ei hun, a'i dderbyn er ei fwyn ei hun. Fel pe dywedasai, Teflwch fi yn hollol o'r neilldu—alltudiwch fi yn hollol oddiwrth bob braint, o ran eich meddyliau a'ch dychymyg, fel pe byddwn i "anathema oddiwrth Grist," ac ymofynwch am sicrhau eich iachawdwriaeth eich hunain trwy gredu ynddo,—ac nid troi ymaith oddiwrtho