Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/289

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o herwydd rhyw dramgwydd all fod ynoch tuag ataf fi sydd yn un o'i annheilwng weision.

Adn. 11—13, "Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur o honynt dda na drwg, &c., y dywedwyd, Yr hynaf a wasanaetha yr ieuangaf, megys yr ysgrifenwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais." Nid meddwl y gair hwn yw fod yr Arglwydd wedi caru un o'r plant, a chasâu y llall, cyn eu geni na gwneuthur o honynt dda na drwg, ac mai hyny oedd yr achos o gymeriadau moesol gwahanol y ddwy genedl, ac o’i wahanol ymddygiadau ef tuag atynt. Meddwl felly fyddai meddwl fod Duw yn awdwr drygau y rhai drygionus fel y mae yn awdwr rhinweddau y rhai rhinweddol. Ond nid dyna yw athrawiaeth ei air sanctaidd, mewn un modd. Ond y meddylddrych yn yr adnodau hyn yw, i'r Arglwydd "ddywedyd" neu hysbysu, cyn geni Jacob ac Esau a chyn gwneuthur o honynt dda na drwg, beth a fyddai cymeriad moesol y ddwy genedl a'r modd y byddai iddo yntau ddangos ei ffafrau dwyfol at y naill a'i ddigofaint dwyfol at y llall. Wrth y gair "Jacob a gerais" y meddylir cenedl Jacob, ac wrth y gair, "Esau a gaseais " y meddylir cenedl Esau—nid y plant cyn eu geni. A bwriad yr apostol yn ei gyfeiriad at hyn, oedd egluro i'r Iuddewon, er i'r Arglwydd ddangos ei ffafrau yn rhyfedd at eu tadau yn yr oesoedd blaenorol, eto os troent hwy o lwybrau eu tadau, a cherdded llwybrau hiliogaeth anghrefyddol a drygionus Esau, mai y cyffelyb dynged fyddai yr eiddynt hwy ag eiddo y rhai hyny.

Adn. 18, "Felly gan hyny y neb y myno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y myno y mae efe yn ei galedu." Yr oedd llawer o'r Iuddewon (ac y mae