Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/290

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawer i'w cael eto) yn dra thebyg i Pharaoh, yn ymgaledu yn fwyfwy dan bob triniaeth o eiddo Duw tuag atynt, a'r genedl galed hon yr oedd Duw yn ei rhoi i fyny o herwydd eu hanghrediniaeth i'r farnedigaeth drymaf a ddisgynodd ar genedl erioed. Pan ddywedir i Dduw galedu calon Pharaoh, nid y meddwl yw i'r Arglwydd ddylanwadu ar ei feddwl i'w galedu, na dwyn un oruchwyliaeth arno i'r dyben hwnw; ond mai dyna oedd effaith alarus goruchwyliaethau Duw tuag ato. Dyben y goruchwyliaethau oedd meddalhau ei galon, a pheri iddo ollwng Israel yn rhydd—caledu yr oedd yntau dan bob goruchwyliaeth. Ond paham y dywedir mai Duw a galedodd ei galon? Gellir ateb y gofyniad yna trwy sylwi mai y goruchwyliaethau, y rhai oeddynt ddwyfol a daionus yn eu tuedd eu hunain, a fuont yn achlysuron o'i galedwch. Felly yr oedd y genedl Iuddewig yn nyddiau yr apostol, yn eu caledwch yn erbyn Crist a'i achos; ac felly y mae pob dyn eto sydd yn ymgaledu mewn pechod yr achos o'i galedwch yw ei anghrediniaeth a'i ddrygioni ei hun—ond yr achlysuron o'i galedwch yn fynych ydynt oruchwyliaethau barnol neu waredigol Duw tuag ato.

Pan y dywedir, "Y neb y myno y mae yn trugarhau wrtho, a'r neb y myno y mae yn ei galedu," nid y meddwl yw fod yr Arglwydd yn ymddwyn mewn trawsawdurdod (arbitrarily) tuag at ei greaduriaid, am ei fod yn uwch na phawb ac yn helaethach yn ei allu na phawb; ond y meddwl yw ei fod yn ymddwyn yn ol ei ewyllys sanctaidd ei hun, ac y mae yn gwneyd hyny yn y gweddusrwydd mwyaf, at bob dyn dan bob rhyw amgylchiadau.