Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/291

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Adn. 20, 21, ❝Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn? Onid oes awdurdod i'r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o'r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i anmharch?" Nid meddwl y gair hwn ydyw, fod yr Arglwydd wedi gwneuthur o'r un ddynoliaeth rai i fod yn bechadurus ac yn ddamniedig, a rhai i fod yn rhinweddol ac yn gadwedig. Annhraethol bell oddiwrth hynyna yw meddwl y gair. Dweyd felly fyddai dweyd fod Duw yn awdwr pechod, a bod yr holl ddrygau moesol sydd yn y byd, ag y cyhoeddir anfoddlonrwydd Duw yn eu herbyn yn mhob oes, wedi deilliaw oddiwrtho ef. O! na, nid felly y mae y gwirionedd dwyfol yn ein dysgu. Dangos mae yr apostol fod gan Dduw yr un hawl i droi y genedl anghrediniol hono i farnedigaeth a dinystr ag sydd gan y crochenydd i droi y telpyn pridd "a ddifwynwyd❞ yn ei law, i fod yn llestri anmharch, pryd y gallasai fod, mewn amgylchiadau gwahanol, yn llestr i barch. Yr oedd y genedl hon wedi ei "difwyno" trwy bechod, yn enwedig y pechod o wrthod ei Gwaredwr a ddaethai atynt oddiar y fath haelfrydigrwydd, ac yr oedd yn gweddu i Dduw (er cymaint y ffafrau a ddangosid yn flaenorol tuag at eu tadau) i ddangos ei gyfiawnder a'i doster arswydol tuag atynt hwy yn y farnedigaeth ag yr oeddynt yn awr wedi ymaddfedu iddi. Os edrychwn ar y geiriau yn Jer. 18: 1—10, o'r lle y dyfynwyd hwy gan yr apostol, cawn weled mai dyna eu gwir ystyr. "Onid allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, ty Israel?" &c. Edryched y darllenydd ar y geiriau. Yr oedd amgylchiadau