Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/292

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y genedl yn nyddiau yr apostol yn dra chyffelyb i'r hyn oeddynt yn nyddiau y prophwyd—eu hysbryd annghrediniol ac eilunaddolgar oedd wedi eu "difwyno yn llaw y crochenydd" ar y ddau amgylchiad, ac yr oedd y farn yn ymyl. Sylwn ar y testyn:

I. Y ddau nodweddiad a enwir.

1. "Llestri digofaint." Pwy oedd y rhai hyn? Anghredinwyr yr oes hono—ac anghredinwyr pob oes. Anghredinwyr y gynulleidfa hon a gynwysir yn y darluniad, "Llestri digofaint!" Gelwir hwy yn "llestri digofaint" am eu bod yn wrthddrychau digofaint yr Arglwydd. "Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddigllawn beunydd wrth yr annuwiol." Nid digllawn wrtho fel ei greadur—mae yn dirion iawn tuag ato yn yr ystyr hono―ond mae yn ddigllawn wrtho fel "annuwiol"—ac yn ddigllawn wrtho am barhau yn annuwiol. Dywedir yn mhellach, "Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf;" hyny yw, efe a ymbarotoa i fwy o ddialedd. Dywedir hefyd ei fod yn "dal dig" at ei elynion; hyny yw, nid yw yn ildio dim iddynt―ni rydd i fyny un o'i egwyddorion tragywyddol i gefnogi yr annuwiol yn ei bechod a'i anufudd—dod—rhaid iddo fe ildio trwy ymostwng—ni wna Duw ildio dim—mae holl egwyddorion ei drefn ef yn anhyblyg dragywyddol. Am hyny, priodol iawn yw'r cyngor, "Yn gymaint a bod digofaint, gochel, rhag iddo dy gymeryd di ymaith â'i ddyrnod, yna ni'th wared iawn mawr!"

"Llestri digofaint." Fel y mae y llestr a sudda yn y môr yn cynwys ei llonaid o ddwfr, felly bydd yr annuwiol a sudda yn uffern yn llawn o ddigofaint yr Arglwydd. Pob teimlad ynddo—pob cyneddf—fydd yn