Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/293

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawn o'r meddwl fod Duw yn ddigllawn wrtho—a'i fod yn gyfiawn yn ddigllawn. Os oedd y meddwl fod Sarah yn ddig yn gwneyd sefyllfa Agar yn annyoddefol yn nheulu Abraham, beth fydd teimlad yr annuwiol pan bo yn cofio fod Duw yn ddig wrtho, a hyny am byth!

2. "Llestri trugaredd." Nid oes eisiau llawer o amser i hysbysu pwy yw y rhai hyn. Mae yr apostol yn eu nodi allan yn amlwg——"Sef nyni y rhai a alwodd efe, nid o'r Iuddewon yn unig, eithr hefyd o'r cenedloedd." Y dychweledigion oeddynt yr holl ddychweledigion―yr holl gredinwyr—pawb duwiolion—pa un bynag ai Iuddewon ai cenedloedd. Dyma y ddau ddosbarth moesol i ba rai y rhenir y byd ar blatform mawr cyfryngdod Mab Duw—sef credinwyr ac anghredinwyr—rhai yn parchu y Mab, a rhai yn ei ddirmygu—dyma y dau gyflwr—a dyma ddeiliaid y ddwy sefyllfa dragywyddol. Y Beibl a olyga bob dyn yn ngwlad efengyl yn perthyn i un o'r ddau raniad yma, yn llestr trugaredd neu yn llestr digofaint, yn ol y peth yw ei ymddygiad at y Gwaredwr mawr. Mae y saint yn llestri trugaredd fel y maent yn ddeiliaid ffafrau rhyfedd o law yr Arglwydd. Ffafr ryfedd i ni oedd fod yr efengyl yn y byd o'n blaen ni, a ninau yn cael bodolaeth ganddo ef yn ngwlad efengyl. Ffafr ryfedd oedd i ni gael ein harwain gan ryw law dyner dan ei gweinidogaeth hi, a chael ein dysgu i nabod llythyrenau ei enw anwyl Ef. Ffafr ryfedd oedd y dylanwad dwyfol a roddodd i ni y tueddfryd sanctaidd hwn y dduwiol anian—ac a'n cychwynodd ar y ffordd tua'r bywyd. A ffafr fawr oedd y gynaliaeth a dderbyniasom bob cam o'r yrfa, a'r gobaith