Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/294

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd ynom, yr hwn a dry yn fwynhad cyflawn fry yn nhy ein Tad. Diau mai llestri trugaredd yw'r saint.

Ond cofier mai llestri trugaredd ydynt. Nid oes yma ddim defnydd hunan—ymffrost. Gwrthddrychau heb haeddu dim yw gwrthddrychau trugaredd. Mae'r saint yn edrych ar bob bendith a fwynhant ar y ddaear yn drugaredd, a byddant yn edrych ar bob bendith a fwynhant yn y nefol wlad fel rhoddion heb eu teilyngu o'u tu hwy. Er mai "coron cyfiawnder" fydd y wobr, ac er y bydd gweddusrwydd priodol yn y gweinyddiad o honi i bob un o'r teulu, eto rhoddion fydd yr holl ffafrau tragywyddol iddynt hwy.. Dyma a bâr newydd—deb tragywyddol yn molianau y nef, “Iddo ef, yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd oddiwrth ein pechodau yn ei waed ei hun.”

II. Y gweinyddiadau gwahanol o eiddo Duw a enwir yma at y gwrthddrychau hyn.

Am ei weinyddiadau tuag at anghredinwyr neu wrthodwyr o'r Gwaredwr, mae yma amrywiol bethau difrifol yn cael eu nodi.

1. Dangos ei ddigofaint—"Beth os Duw yn ewyllysio dangos ei ddigofaint." Fe ddangosodd yr Arglwydd ei ddigofaint mewn modd dychrynllyd iawn yn y farn dymorol ar y genedl Iuddewig (fel y sylwyd) am eu gwrthodiad o'r Messiah. Yr oeddynt wedi cael eu rhybuddio o hyn gan y prophwydi, a chan Grist ei hun mewn dagrau, ac y mae y darluniad a roddir o'r farn hon gan Josephus, yr hanesydd Iuddewig, yn arswydol yn wir, pan gylchynwyd y ddinas gan y lluoedd Rhufeinig—y ddinas ei hun o'i mewn fel crochan berwedig gan bleidiau gwrthwyneb-