Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/295

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ol yn dinystrio eu gilydd yr Iuddewon wedi hyny yn cael eu croeshoelio ar brenau, tra yr oedd pren i'w gael yn y wlad i groeshoelio dyn arno. Yna eu gwasgaru a'u halltudio, megys gyda phedwar gwynt y nefoedd. Yma yr oedd Duw mewn barn dymorol yn dangos ei ddigofaint yn arswydol, eto yn gyfiawn, at wrthodwyr ac erlidwyr ei Anwylfab. Ond beth a ddywedwn am y farn dragywyddol ar yr holl anghredinwyr, y rhai na fynant ufuddhau i efengyl Mab Duw, nac ymddiried ynddo? Y bywyd naturiol a ddinystrir gan farnau tymorol—bywyd yr enaid fydd dan y farn hono. Peth dros amser yw pob barn dymorol peth i barhau byth fydd y digofaint hwnw. Dydd i "ddangos ei ddigofaint" fydd dydd y farn gyffredinol—a dydd i "ddangos ei ddigofaint" fydd cyfnod y gosp dragywyddol.

2. "Peri adnabod ei allu." Ei allu barnol yn ddiau a feddylir wrth y gair yma. Mae llawer yn ymddwyn yn awr mewn gwawd a dirmyg a rhyfyg, gan gymeryd yr enw mawr yn ofer, diffodd argyhoeddiadau eu cydwybodau eu hunain, a mynu eu ffordd yn mlaen tuag uffern trwy bob moddion a roddir i'w hatal, fel pe na byddai gan Dduw allu i'w galw i gyfrif. Ond y mae ganddo allu, ac fe bâr adnabod ei allu pan bydd yn galw yr adyn euog i wely angau, a thrwy angau i'r farn, a phan y bydd yn galw ei holl elynion o'u beddau yn y dydd mawr a ddaw.

3. "A oddefodd trwy hir ymaros." Dyna fel yr oedd yr Arglwydd wedi ymddwyn at y genedl wrthnysig hono—a dyna fel y mae yn ymddwyn eto at lawer o wrthodwyr ei Fab—goddef yn hir cyn tarorhoddi amser iddynt i edifarhau, fel y Jezebel hono a