Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/296

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enwir yn llyfr y Datguddiad—eu cymell yn dirion—eu ceryddu weithiau—eu gwaredu bryd arall—" hirymarhous yw efe" tuag at y rhai cyndyn ac anufudd.

4. Rhai wedi eu "cymwyso i golledigaeth" oedd y rhai hyn. "A oddefodd trwy hir ymaros lestri digofaint wedi eu cymwyso i golledigaeth." Nid oes dim yn cymwyso dyn i golledigaeth mor effeithiol a'i fod yn gwrthod yr unig Waredwr a drefnodd Duw i ddyn, ac yn y sefyllfa hono yn byw mewn pechodau rhyfygus. Dyma oedd sefyllfa y rhai a ddarlunir gan yr apostol yma—yr oeddynt yn gymwys i'r farn, ac wedi eu hir oddef cyn i'r farn ddisgyn. Ei gymwyso ei hun i golledigaeth y mae yr annuwiol trwy ei anghrediniaeth a'i galedwch. Meddwl y gair hwn ydyw fod yr Arglwydd o'i anfeidrol amynedd yn goddef llawer o ddynion ar y ddaear, er eu bod eisoes wedi eu cymwyso eu hunain i golledigaeth.

Dau beth a enwir gyda golwg ar y gweinyddiad dwyfol at "lestri trugaredd."

1. "Peri gwybod golud ei ogoniant" yn eu hiechydwriaeth. Iaith aruchel iawn yw hon—peri gwybod ei ogoniant, a golud ei ogoniant yn iachawdwriaeth ei bobl. Mae gogoniant yr Arglwydd i'w weled yn ei holl weithredoedd, ond yn iachawdwriaeth ei saint gwelir golud ei ogoniant. Yma y gwelir golud ei allu, ei ddoethineb, ei gyfiawnder a'i drugaredd dros byth.

2. Eu "rhagbarotoi i ogoniant." Dyma ddyben grasol holl oruchwyliaethau Duw tuag atynt, a dyma yr effaith y mae y goruchwyliaethau yn gael arnynt—eu rhagbarotoi i ogoniant. Gwaith mawr ydyw hwn—addysgu boneddigeiddrwydd y nef i'r teulu ar y ddaear.