Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/297

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III. Yr herfeiddiad sanctaidd a wneir

"Beth os Duw yn ewyllysio," &c. Mae y gair hwn yn cyfeirio at y ddau weinyddiad. Yr oedd gwrthddadleuon yn codi yn meddyliau llawer i'r athrawiaeth fod y fath genedl ag oedd hen genedl yr Iuddewon, eiddo y rhai oedd y tadau, a dodiad y ddeddf, a'r cyfamodau, &c., yn cael ei rhoi i fyny i'r fath farn. Ac yr oedd gwrthddadleuon i'r meddwl fod y cenedloedd yn dyfod i mewn i'r fath ffafrau goruchel. Sylwn air yn fyr yma.

1. Ar gyfiawnder Duw yn ngweinyddiad y farn ar yr Iuddewon, ac yn ngweinyddiad y gosp dragywyddol ar bawb anghredinwyr.

(1.) Hwy a wrthodasant Dduw eu tadau, ac nid efe a'u gwrthododd hwy. Yr apostol a ofyna gydag eiddigedd sanctaidd (pen. 11: 1), "A wrthododd Duw ei bobl? Na atto Duw," &c. Nid efe oedd yn troi ymaith oddiwrth ei bobl, ond hwy oeddynt yn troi ymaith oddiwrth eu Duw a'i wasanaeth. Dyna a agorodd y genllif o ddigofaint i ddyfod arnynt. Felly y mae eto—"Ni fynwch ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd."

(2.) Y pechod mwyaf o bob pechod ydyw anghredu yn y Gwaredwr. Mae yn fwy na phechod paganiaid—mae yn fwy na phechod cythreuliaid. Pechod y pechodau ydyw anghredu yn Iesu Grist. Y weithred fwyaf ysgeler a gyflawnwyd erioed gan ddynion oedd gweithred yr Iuddewon yn erlid yr Iesu. Gwawdiasant, dirmygasant, croeshoeliasant Anwylfab y Nef. Ac y mae y rhai a anufuddhant i'w efengyl yn awr yn ei ail groeshoelio.

(3.) Gweithred rydd yw credu tystiolaeth Duw am ei Fab, a gweithred rydd yw anghredu y dystiolaeth.