Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/298

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid yw yr Arglwydd yn gorfodi neb yn hyn. O fodd y derbynir Iesu Grist, ac o fodd y gwrthodir gwneyd derbyniad o hono. O'u bodd y gwaeddai yr Iuddewon, "Ymaith ag ef, ymaith ag ef," &c. Ac felly eto, o fodd y mae dynion yn anufuddhau i'r efengyl.

(4.) Mae anghrediniaeth yn cau unig ddrws iachawdwriaeth yn erbyn y pechadur. Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, nac enw arall wedi ei adael, trwy yr hwn y mae modd bod yn gadwedig. Ni fedd Duw un drefn arall. Pan anfonodd Duw ei Fab i'r byd, anfonodd y genad olaf. Dyma, megys, y cynygiad diweddaf os gwrthodid ef, nid oedd un arall. 'Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab." Dyma yr urdd fwyaf dyma y graslonrwydd rhyfeddaf—dyma y genad olaf!

(5.) Mae hir oediad y farn (fel y nodwyd) yn cyfiawnhau ei gweinyddiad. "A oddefodd trwy hir ymaros." Nid oedd y Duw cyfiawn yn dewis goddef nac ymaros yn hwy. Felly y mae eto gyda golwg ar y rhai sydd bob amser yn gwrando, heb un amser ddyfod i wybodaeth o'r gwirionedd.

Wel, "Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint," &c., onid cyfiawn yw iddo wneyd hyny? Bydd gweinyddiadau y farn olaf bydd llais y gydwybod ei hun—bydd loesion y gosb yn y boenfa dragywyddol yn adleisio, Mae'r gosb yn gyfiawn. Un gair eto,

2. Ar y gweddusrwydd o'i fod yn dangos golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbarotodd efe i