Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/299

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ogoniant. Beth os Duw yn ewyllysio gwneyd hyn hefyd? Rhyw drugaredd ryfedd i'r cenedloedd oedd iddo agor y drws, a dywedyd wrth ei weision, Ewch bellach i ffordd y cenedloedd. Pan yr ymesgusodai y "rhai a wahoddid," ac ni fynent ddyfod i'r "swper mawr," trugaredd oedd dweyd wrth y gwas, "Dos allan i'r prif—ffyrdd a'r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhy." Trwy ffydd y derbyniwyd y cenedloedd, a thrwy ras heb ci fath—a bydd uchel ganmol byth am y gras hwn. Ceir gweled "golud ei ogoniant" yn y gwrthddrychau wedi i'r gwaith gael ei orphen. Gwelir y drefn yn ogoneddus—y gwaith yn ogoneddus—a'r diwedd a fydd yn ogoneddus byth.

Edrychwn na wrthodom yr hwn sydd yn llefaru o'r nef, Rhoddwn ufudd—dod parodol iddo—a chawn fynegu ei fawl ddydd a ddaw am ei ddawn annhraethol i wrthddrychau annheilwng.

SWYDDOGAETH EGLWYS CRIST.

Yr ydym wedi meddwl er's tro y buasai yn dda genym allu dweyd gair, pe gallem wneyd hyny yn briodol hefyd, ar swyddogaeth eglwys Crist. Y mae o bwys i bob cymdeithas, er ei chysur a'i llwyddiant, fod ei swyddogion yn ddynion doeth, medrus a ffyddlon, a'u bod hefyd yn derbyn gan y rhai y llafuriont iddynt yr ymddiried sydd weddus iddynt yn eu sefyllfa swyddol. Ac o bob cymdeithas ag y mae hyny yn bwysig iddi, eglwys Dduw sydd yn benaf felly.

Eglwys Crist yw y gymdeithas fwyaf goruchel sydd mewn bod. Y mae yn gymdeithas o osodiad ac o