Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/300

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drefniad dwyfol. Mae pob peth ynddi i gael ei wneyd yn addas ac mewn trefn, yn ol y portread a'r gorchymyn dwyfol. Cymdeithas ydyw i gario allan yn ymarferol ddybenion mawrion ymgnawdoliaeth a gwaith y Gwaredwr—sef dadymchweliad teyrnas Satan, tröedigaeth dynion at Dduw, sefydliad gwirionedd a rhinwedd trwy yr holl ddaear, ac yn y cyfan gogoneddu enw ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

Mae yn perthyn i eglwys Crist weinidogion i draethu gair y bywyd—a diaconiaid. Am yr olaf yn benaf y mae ein bwriad i ddweyd ychydig yn awr.

Ystyr y gair diacon yw gweinyddwr, gweithiwr, neu lafurur. Da fyddai i ddiaconiaid bob amser gofio ystyr priodol eu henw—maent wedi eu galw i'r swydd i weithio, nid i wisgo anrhydedd y swydd yn unig, ond i weithio, ac i weithio yn egniol ac yn ddiwyd, fel rhai sydd i roddi cyfrif. Perthyna i'r swydd yn arbenig i ofalu dros bethau allanol eglwys Crist.

Maent i ofalu am dy yr Arglwydd ei gysegr cyhoeddus i edrych ar ei fod yn lle cyfleus, cysurus a glân, a phob peth o'i ddeutu yn drefnus a dymunol, fel lle addas a deniadol i'r gynulleidfa ddyfod iddo i addoli yr Arglwydd.

Mae yn perthyn i'r diaconiaid i ofalu dros dlodion y gynulleidfa, na byddont mewn eisiau. Dylai hyn gael ei gofio yn ddyfal. Er fod trefn yn y wladwriaeth, yn ngwledydd cred, dros y peth hyn, eto nis gallwn feddwl fod yr eglwysi i'w adael yn ddisylw, ond y dylent edrych yn ofalus na bo neb yn eu plith yn cael eu gadael mewn eisiau a chaledi. Mae dynoliaeth yn gofyn hyny, pa faint mwy yr efengyl?

Perthyna i'r diaconiaid ofalu am gynaliaeth gwein-