Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/301

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

idogaeth yr efengyl yn eu plith yn anrhydeddus ac yn ddi-ofid i'r rhai sydd yn llafurio. Mae diofalwch yn

nghylch cynaliaeth briodol y weinidogaeth wedi bod yn ofid mawr i lawer o weinidogion ffyddlon Iesu Grist. Llawer o'r rhai hyn sydd wedi bod yn drallodus, yn gyfyng arnynt, heb wybod beth i'w wneyd; a hyny yn tarddu, nid oddiar ddiffyg medr yn y gynulleidfa i'w cynal, nac o ddiffyg serch atynt a'r dymuniadau goreu am eu cysur; ond o ddiffyg sel a bywiogrwydd yn y diaconiaid i osod yr achos yn deilwng ger bron y gynulleidfa, a myned o amgylch yn yr amser mwyaf priodol i dderbyn eu gwirfoddol gyfraniadau. Dylai y diaconiaid edrych yn ddyfal at hyn. "Bydded efe yn ddi—ofn yn eich plith chwi," ond pa fodd y gall gwas yr Arglwydd fod yn "ddi—ofn" tra y byddo yn methu talu ei ddyledion cyfiawn, ac yn methu cynal ei deulu? "Na chau safn yr ych sydd yn dyrnu yr yd"—nid am ychain y mae Duw yn llefaru, ond am ei weision, gweinidogion yr efengyl.

Mae yn perthyn i swydd y diaconiaid hefyd i anog a chymell i haelfrydedd cyffredinol, i ysbryd cyhoeddus, a lledaeniad achos yr efengyl trwy y byd. Mae achosion cyhoeddus yn cael cam o ddiffyg mwy o ffyddlondeb yn hyn; ac y mae yr eglwysi eu hunain yn cael cam o eisiau galw allan eu teimladau haelfry dol a'u cyfraniadau haelionus dros achos y Gwaredwr yn gyffredinol, a dychweliad y byd ato. Nis gall un eglwys gynyddu mewn gras a bod yn brin yn ei chyfraniadau a lle na bo cynydd mewn gras, ac yn y gras o haelfrydedd Cristionogol yn arbenig, nid oes yno ryngu bodd Duw; nid oes yno yfed yn helaeth i Ysbryd Crist, "yr hwn ac efe yn gyfoethog a ddaeth er