Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/302

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ein mwyn ni yn dlawd," ac nid oes yno ymaddfedu i ogoniant y nef, lle y mae pawb yn haelfrydol fel Crist ei hun.

Mae yn perthyn i ddiaconiaid yr eglwysi hefyd i weinyddu mewn pethau ysbrydol. Camgymeriad hollol ydyw meddwl mai ❝gwasanaethu byrddau” yn unig sydd berthynol iddynt. Maent i fod yn ddynion llawn o'r Ysbryd Glan ac o ffydd, yr hyn sydd yn dangos fod gwaith ysbrydol yn perthyn iddynt. Maent i gynorthwyo y gweinidogion yn nygiad yn mlaen gyfarfodydd cyfrinachol yr eglwys, ac i flaenori yn y cyfarfodydd hyny yn absenoldeb y gweinidogion. Maent i fod yn ddiwyd mewn ymweled â'r cleifion a'r trallodus yn eu hadfyd a'u cyfyngderau. Maent i ymweled â'r rhai a ddianrhydeddant eu proffes trwy gamymddygiadau, i geisio eu hadgyweirio a'u hadferu; ac iddynt yn briodol y perthyna trefnu pob achos o ddysgyblaeth i'w osod ger bron yr eglwys. Ac yn y cyfan yn ddiau dylent ymddwyn yn addfwyn a thirion, ac eto yn benderfynol i gynal iawnderau Brenin Seion ac anrhydedd ei achos.

Dylai eglwysi Crist gofio fod dyledswyddau pwysig yn gorphwys arnynt hwythau tuag at y rhai sydd yn gweinyddu yn eu plith yn y pethau pwysig hyn.

Dylent ufuddhau iddynt yn yr Arglwydd yn barodola siriol. Y mae awdurdod yn perthyn i bob swydd yn eglwys Crist—nid awdurdod ddynol—nid wedi ei derbyn o lys dynol—ond o lys y nef—awdurdod Crist fel Brenin ei saint. Mae pob swyddog yn nhy Dduw yn gweinyddu yn enw yr Arglwydd Iesu Grist; a chan mai yn ei enw y maent yn gweini, y mae hyny yn cynwys eu bod yn gweini yn awdurdod eu Brenin.