Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/303

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ofnym nad yw eglwys Dduw yn ystyried awdurdod swyddogaeth yr eglwys fel y dylont. "Ufuddhewch i'ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch; oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi," &c. Dyma orchymyn Duw, ac y mae awdurdod yr orsedd yn cyd—fyned a'r gorchymyn. Pan bo cyngor neu gyfarwyddyd swyddogion eglwys Crist yn unol â rheswm ac â gair yr Arglwydd, y mae yn cael ei wisgo ag awdurdod y Brenin Iesu, ac nis gellir anufuddhau, heb daflu sarhad ac anmharch ar goron yr Emmanuel ei hun.

Dylai yr eglwysi ddangos ysbryd o gydymdeimlad tyner â'r diaconiaid, ac nid bod yn haerllug i feio, lle na byddont yn cydweled yn mhob peth. Nid ydym yn ddysgwyl gallu cydweled yn hollol yn mhob peth; ac nis gallwn ddysgwyl na bydd diffygion a chamgymeriadau yn bod weithiau; ond dysgwn gydymdeimlo a'n gilydd a bod yn addfwyn. "Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad."

Dylai yr eglwysi gynorthwyo a chalonogi eu swyddogion trwy ddangos parodrwydd meddwl yn nghyflawniad eu dyledswyddau crefyddol, gan ystyried eu dyledswyddau yn wir freintiau, yn hyfrydwch ac nid yn faich. "Nid trwy gymell," medd yr apostol," ond o barodrwydd meddwl." Fel hyn bydd gorchwylion yr eglwys yn gyffredinol yn cael eu dwyn yn mlaen yn esmwyth a hyfrydol, yn ol tystiolaeth Duw ei hun am ffyrdd doethineb—" Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch."

Dylem gofio swyddogion yr eglwysi mewn dyfal weddiau drostynt at Dduw, am iddo eu nerthu a'u cysuro yn eu gwaith. Cofier y gweinidogion mewn