Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/304

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweddiau; "O frodyr, gweddiwch drosom." Cofier hefyd y diaconiaid mewn gweddiau. Mae eu gwaith yn bwysig a'u cymorth yn unig a ddaw oddiwrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear. Byddwn yn fynych ger bron yr Arglwydd ar ran ein gilydd mewn gweddiau, "Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn"—a bydd ei amddiffyn ef drosom—bydd ein heneidiau yn llwyddo—a'i enw a gaiff y gogoniant.

POB DYN YN DDIESGUS.

DYFYNIADAU O BREGETH YN NGHYMANFA CARBONDALE YN 1846.

Ioan 15: 22, 'Ond yr awr hon nid oes ganddynt esgus am eu pechod."

Llefarwyd y geiriau hyn gan ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn, mewn symledd ac awdurdod, ydoedd yn llefaru megys na lefarodd dyn erioed. Yr hyn y mae ein Hiachawdwr bendigedig yn sefyll arno yma ydyw, dangos euogrwydd mawr ac echryslonrwydd aethus cyflwr y rhai hyny ag oeddynt yn byw dan yr efengyl a than ei weinidogaeth ef fel anfonedig y Tad, heb ymostwng i'r efengyl a'i defnyddio fel moddion eu hiachawdwriaeth. "Oni b'ai fy nyfod a lefaru wrthynt ni buasai arnynt bechod;" hyny yw, ni buasai arnynt bechod mewn cydmariaeth i'r peth sydd yn awr. "Ond yr awr hon nid oes ganddynt esgus am eu pechod." "Mae fy nyfodiad i i'r byd, fel Ceidwad dyn ac eglurder yr oruchwyliaeth wedi eu gosod mewn sefyllfa nad oes bellach un esgus ganddynt dros bara yn annuwiol a bod yn golledig."

Yr athrawiaeth yr wyf yn sefyll arni ar sail y geiriau hyn ydyw, Fod pob dyn dan yr efengyl—ïe, pob