Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/305

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un yn nghyraedd swn yr efengyl, ac heb blygu iddi—yn myned yn mlaen tua gwlad y gwaeau tragywyddol yn gwbl ac yn hollawl ddiesgus am ei bechod, ac yr ymddengys ei achos felly yn y farn a ddaw. Ar yr

un mater difrifol hwn y mae fy mwriad i sefyll dros ychydig fynydau.

1. Y peth cyntaf a enwir i brofi yr athrawiaeth ydyw, uniondeb a daionus natur cyfraith yr Arglwydd.

Gan osod o'r neilldu am fynyd yr ystyriaeth o'r efengyl, edrychwn ar ddyn fel deiliad noeth o ddeddf foesol Duw. Pe na buasai gair o efengyl wedi ei gyrhaedd erioed, yn ei berthynas â'r ddeddf foesol yn holl fanylrwydd a phurdeb ei gofynion, y mae yn ddiesgus. Nid yw deddf Duw yn gofyn dim sydd yn orthrymus. Mae hi yn gofyn i ti garu Duw a'th holl galon, a'th holl feddwl ac â'th holl nerth, a'th gymydog fel ti dy hun, Dyma ofyn yr hyn nas gellid peidio ei ofyn a bod yn gyfiawn. Mae Duw yn deilwng o'i garu â'n holl galon, a'n cymydog yn deilwng o'i garu fel ni ein hunain. Nid gofyn i ti ei garu a'i wasanaethu â galluoedd angel y mae; ond â'r galluoedd hyny ag y mae efe wedi dy gynysgaeddu a hwynt, a hyny yn ddiffuant, yn ffyddlon, yn mhob lle ac ar bob achlysur, am amser a thragwyddoldeb. Dyna ofyn (dywedwn eto) yr hyn nas gellid peidio ei ofyn a bod yn gyfiawn.

Mae y ddeddf hon hefyd yn ddeddf ddaionus, "y gorchymyn sydd gyfiawn, a sanctaidd a da." Nid yw yn gofyn dim ond sydd yn cyd—fyned â'n dedwyddwch penaf; nefoedd yw ufuddhau iddi, uffern yw peidio. Pe buasai yr Arglwydd, wrth ffurfio ei ddeddf foesol, wedi gwneyd lles a chysur ei greadur rhesymol fel ei brif ddyben, a phe buasai fel Tad doeth a thyner