Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/306

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn rhoi allan yn unig y cyngor goreu iddo, tuag at fod yn ddedwydd, nis gallwn dybied am un llwybr gwell i'w gyngori, na'i orchymyn i garu ei Greawdwr a'i Lywodraethwr daionus "â'i holl galon, â'i holl feddwl a'i holl nerth," a'i gymydog "fel ef ei hunan.” Nis gall un bôd rhesymol yn un rhan o'r bydysawd fod yn ddedwydd heb gydymffurfio â'r cyfryw ddeddf. Gadewch i'r bôd uchaf ei anrhydedd a helaethaf ei ddedwyddwch yn nghanol y nef ac yn ymyl yr orsedd, lochesu yn ei fynwes am eiliad falais a llid at ei Greawdwr, neu ddigofaint at ei gyd—greadur, a throai y nefoedd yn uffern iddo yn y fan; a phe gallai, o'r tu arall, un o deulu glân y gogoniant, yn llawn parch sanctaidd i Dduw a chariad teilwng at ei gyd—greaduriaid, basio trwy ororau tanllyd y fagddu dragywyddol, wrth gyflawni gorchymynion ei Arglwydd, ni ddeifiai y tân ei wisgoedd ac ni anmharai y golygfeydd dychrynllyd ar ei berffaith ddedwyddwch. Cydymffurfiad â'i gofynion a'n gwna yn ddedwydd yn mhob lle. Felly y ddeddf unionaf, a'r ddeddf oreu, er ein dedwyddwch, yw deddf yr Arglwydd, a allasai gael ei ffurfio. Fel deiliad noeth o ddeddf foesol Duw, gan hyny, mae dyn yn gwbl ddiesgus am ei bechod. Ac ar y tir yma, mae holl ellyllon uffern yn ddiesgus, a byddant felly am byth.

2. Mae dyn yn ddiesgus, o herwydd fod darpariaeth ddigonol wedi ei gwneyd ar gyfer ei iechydwriaeth. Nid yn unig buasai yn ddiesgus ac yr oedd felly, fel deiliad deddf noeth, ond y mae yn ddiesgus fel deiliad moddion adferiad, neu fel un wedi cael ail gynyg am fywyd ar ol ei golli.

Mae y ddarpariaeth sydd yn Nghrist yn anfeidrol