Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/307

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddigonol ynddi ei hun ar gyfer pob dyn o fewn terfynau gobaith. Yr hyn sydd yn profi fod y ddarpariaeth yn ddigonol ar gyfer pawb yw y ffaith ei bod felly ar gyfer rhai. Os gellir profi fod Crist yn ddigonol i un pechadur ar y ddaear, y mae yn ddigonol i bob pechadur ar y ddaear, oblegid yr un yw cyflwr pawb. Nid rhanu Crist a wneir. Pe rhanu fuasai yn bod, un yn cael rhan o'i rinwedd, ac arall ran, &c., gallesid dychymygu i'r rhinwedd ddarfod, er na allai hyny fod gan ei fod yn anfeidrol ac yn "anchwiliadwy" olud. Ond nid felly y mae; rhaid i bob un gael Crist yn gyflawn iddo ei hun, ac eto yr un yw yn ddilai fel Iachawdwr y byd. Golygwn fod rhyw glefyd angeuol yn cymeryd lle mewn cymydogaeth—a meddyg medrus yn gosod ei swyddfa i fyny ac yn cyhoeddi ei gyfferi meddygol yn anffaeledig. Byddai eisiau holl ddoethineb y meddyg a holl effeithiolaeth ei foddion i gael un claf yn iach, aceto nid yw ei ddoethineb yn llai, nac effeithiolaeth y moddion yn llai i bwy bynag a ymddiriedo ei achos i'w law.

Mae iawn Mab Duw yn gyfryw mewn gwiwdeb a gwerth ag y mae yn anhawdd, hyd yn nod mewn dychymyg, ychwanegu ato na thynu oddiwrtho. Meddyliwn am fynyd am anfeidrol urddasrwydd Person y Gwaredwr—perffeithrwydd ei ufudd-dod—a pherffeithrwydd y dyoddefiadau a ddyoddefodd. Person uwch ei urddasrwydd a'i ogoniant nid oedd i'w gael, neb llai ni buasai yn ateb―ufudd—dod gwell a pherffeithiach nid oedd yn gyraeddadwy, a llai ni buasai yn gwneyd y tro—dyoddefaint perffeithiach nid oedd i'w gael, a llai ni buasai yn ateb; rhoddodd ei einioes gwerthfawr i lawr, ac nid oedd einioes gwerth-