Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/308

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fawrocach yn bod; dyoddefodd hyd angau, ïe angau'r groes; dyoddefodd angau yn ei gorph, a dyoddefodd angau mewn ystyr yn ei enaid, a chyda y priodoldeb mwyaf gellir dyweyd mai dyoddefiadau ei enaid oeddynt enaid y dyoddefiadau. Yn awr, i wneyd iawn digonol dros un camwedd un dyn, ni buasai Person llai ei urddasrwydd a'i fawredd dwyfol yn ateb—nac ufudd—dod llai o'i eiddo na pherffaith ufudd-dod—na llai aberthiad nag aberthiad cyflawn o'i werthfawr fywyd. Ac i'r dyben o gael ffordd anrhydeddus i achub "pwy bynag gredo ynddo" o'r holl hil ddynol, nid oedd eisiau uwch urddasrwydd yn y Person a ddyoddefodd, nac ufudd-dod perffeithiach, na bywyd perffeithiach i'w aberthu. Nid diffyg darpariaeth mewn iawn, gan hyny, a fydd yn achos o golledigaeth neb, ond gwrthodiad gwirfoddol o'r ddarpariaeth a wnaed.

3. Mae y pechadur yn ddiesgus, oblegid fod y ddarpariaeth a wnaed trwy Iesu Grist wedi ei bwriadu mewn cyngor tragywyddol i fod y peth yw mewn helaethrwydd a digonolrwydd.

Dyma sydd gan rai yn esgus dros barhau yn anghrefyddol ac yn anmhlygedig i'r efengyl, maent wedi dychymygu nad oedd dim yn y bwriad a'r cyngor tragywyddol ar eu cyfer hwy. "Nid wyf yn ameu," medd y dyn, "nad oes digon yn Nghrist ar gyfer fy math i, ac nad yw yr aberth ynddo ei hun yn ddigonol; ond yr wyf yn ofni na fwriadwyd dim ar gyfer fy iechydwriaeth, ac er nad oes cyfyngu wedi bod yn rhinwedd yr aberth, eto fod cyfyngu wedi bod yn y bwriad." Mewn atebiad i'r wrthddadl hon, yr hyn yw y maen tramgwydd ar ffordd llawer, nid wyf yn dyweyd nad oedd gan yr Arglwydd, ac nad oes gan-