Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/309

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddo yn holl weithredoedd ei ragluniaeth, olwg neillduol, oddiar oruchel benarglwyddiaeth ei ras, ar y rhai sy'n credu yn ei Fab er iechydwriaeth; ond yr hyn y sylwyf arno yw nad oes yma ddim lle i un dyn ymesgusodi am barhau yn anmhlygedig i alwad yr efengyl. Sylwn ar ddau beth yn fyr yn y fan hon:

(1.) Nid bwriad dirgeledig Duw (pa beth bynag yw hyny) ydyw ein rheol ni, ond ei ewyllys ddatguddiedig yn ei air ac yn ei ragluniaeth. Felly yr ydym yn gweithredu mewn pethau cyffredin, ac y mae hyny yn addas, ac felly y dylem weithredu yn y pethau a berthynant i iechydwriaeth ein heneidiau anfarwol.

(2.) Gallwn fod yn gwbl dawel, pa faint bynag a allwn ni amgyffred yn ein sefyllfa bresenol am ei fwriad a'i gyngor grasol ef, nad oedd yno ddim yn anghydsefyll â'r hyn a geir yn ei ewyllys ddatguddiedig yn ei air.

Mae dynion i'w cael yn fynych yn wahanol iawn yn eu geiriau a'u gweithrediadau cyhoeddus i'r hyn ydynt yn eu bwriadau a'u cynlluniau dirgelaidd. Pe gellid gweled i mewn trwy ffenestr y fynwes, gellid canfod meddyliau, bwriadau a chynlluniau gwahanol iawn i'r hyn a ymddengys yn y geiriau a'r ymddygiadau allanol. Ond byddai yn annheilwng iawn i feddwl felly am yr Arglwydd. Yr hyn yw efe yn ei air yn gyhoeddus, dyna ydoedd yn mwriad ei galon erioed.

Pa beth bynag, gan hyny, yw cynllun iechydwriaeth fel y mae yn ddatguddiedig yn ngair y gwirionedd, o ran ei helaethrwydd a'i ddigonolrwydd, dyna ydoedd hefyd yn yr arfaeth a'r bwriad tragywyddol. Ewyllys ddatguddiedig Duw yn ei air ydyw y mynegfys